Grant Dechrau Busnes Caerffili

Mae hwn yn gynllun grant hyblyg a ddarperir drwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae wedi’i gynllunio er mwyn helpu trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili sefydlu busnes llawn-amser am y tro cyntaf, lle nad ydynt yn gallu cael mynediad i unrhyw ffynonellau eraill o gyllid. Mae'r Grant Cychwyn Busnes Caerffili yn darparu cymorth ariannol i helpu busnesau newydd, cymwys i ddatblygu a thyfu.

Pwy sydd â hawl i wneud cais?

Gall busnesau cychwynnol ym mhob sector busnes cael eu hystyried. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd sefydlu’r busnes ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Gall costau cymwys gynnwys:

  • Offer cyfalaf
  • Offer TGCh
  • Datblygu gwefannau
  • Marchnata
  • Gwaith adeiladu i adeiladau busnes
  • Hyfforddiant

Ni ddylai'r busnes fod wedi dechrau cyn ymgeisio a chymeradwyo.

Sut i wneud cais

Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu cynllun busnes gydag isafswm o ragolwg llif arian am flwyddyn ac elw a cholled amcanol. Mae hefyd yn ofynnol i gael dau ddyfynbris tebyg ar gyfer pob eitem cyfalaf sydd eu hangen. Mae'n rhaid i'r busnes ddarparu cyflogaeth lawn amser ar gyfer yr ymgeisydd (lleiafswm o 30 awr).

Rhaid i o leiaf un o'r perchnogion neu gyfarwyddwyr cael eu cyflogi yn llawn amser yn y busnes.

Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes am ragor o wybodaeth.

Pa lefel o grant sydd ar gael?

Mae Grant Dechrau Busnes Caerffili yn grant dewisol a gall ddarparu hyd at 50% o wariant prosiect cymwys hyd at uchafswm o £500.

Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?

Caiff ceisiadau eu hasesu'n barhaus gan y Tîm Adnewyddu Menter Busnes.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan UK Steel Enterprise.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan UK Steel Enterprise. Mae UK Steel Enterprise Ltd (UKSE) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr Tata Steel, sydd â'r cyfrifoldeb o helpu adfywiad economaidd cymunedau yr effeithir arnynt gan newidiadau yn y diwydiant dur. Mae UKSE yn gweithio mewn ardaloedd dur ledled y DU i gynorthwyo swyddi a chreu cyfoeth drwy gefnogi mentrau bach a chanolig gyda chyllid ac adeiladau.

Mae dyfarniad y grant yn llwyr yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
UK Steel Enterprise logo 

Cysylltwch â ni