Sgorio hylendid bwyd ar gyfer busnesau

Daeth Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a’r rheoliadau cysylltiedig i rym ar 28 Tachwedd 2013.  Mae'r Ddeddf yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol i Gymru.

Ar ôl i chi gael Sticer Sgôr Hylendid Bwyd, rhaid iddo gael ei arddangos mewn man amlwg ym mhob mynedfa neu wrth ymyl pob mynedfa i'ch busnes bwyd.  Mae methiant i arddangos sticer dan y cynllun gorfodol (cynhelir arolygiadau ar ôl 27 Tachwedd 2013) yn drosedd ac yn arwain at ddirwy benodedig o £200 (a gaiff ei gostwng i £150 os caiff ei thalu o fewn 14 diwrnod) a/neu erlyniad. 

Dan y ddeddfwriaeth newydd ni chyflwynir tystysgrifau mwyach. 

Dan y Ddeddf rhaid i chi a’ch cyflogeion hefyd ddweud wrth gwsmeriaid, os gofynnir, y sgôr y mae’r busnes wedi’i gael. Mae hyn yn berthnasol wyneb yn wyneb yn ogystal â dros y ffôn. 

Caiff sticeri sgôr hylendid bwyd newydd eu cyflwyno bob tro y bydd eich safle yn cael ei arolygu/sgorio. Rhaid i chi dynnu eich sticer sgôr hylendid bwyd i lawr a’i ddinistrio, pan na fydd yn ddilys mwyach.  Ni fydd y sticer yn ddilys 21 diwrnod ar ôl cael gwybod am eich sgôr newydd neu pan fydd newid o ran perchennog y busnes. 

Cyhoeddi sgôr cyn i'r cyfnod apelio ddod i ben

Gall perchnogion neu reolwyr busnes ofyn bod sgôr yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio.  Rhaid gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Rhaid i chi gynnwys: manylion pwy ydych chi; enw a chyfeiriad y busnes; eich manylion cyswllt; dyddiad yr arolygiad; a'r sgôr a roddwyd.  Yna bydd y cais hwn yn cael ei adolygu, a bydd y sgôr yn cael ei gyhoeddi'n gynnar. Nid yw hyn yn ildio hawl y busnesau i apelio.

Beth os ydw i’n meddwl bod y sgôr yn anghywir 

Os ydych chi o’r farn bod y sgôr yn anghywir gallech gysylltu â'r swyddog arolygu i drafod. Os, ar ôl trafodaethau, eich bod chi'n dal i gredu bod y sgôr yn anghywir, gallech apelio'n ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod gan ddefnyddio ein ffurflen apelio.  Cewch wybod am ganlyniad yr apêl o fewn 21 diwrnod ar ôl iddi gael ei derbyn. 

Ffurflen Apelio (PDF)

Gofyn am ail-ymweliad

Os ydych wedi ymdrin â’r holl achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a godwyd yn yr adroddiad arolwg ac yn gallu dangos tystiolaeth o'r rhain, yna gallech ofyn am ail-ymweliad i geisio cael sgôr newydd.  

Ffurflen Gofyn am Ail-ymweliad (PDF)

Codir £180 am ymweliad ail-sgorio, a mae'n rhaid ei dalu wrth wneud cais drwy ffonio 01443 866570 neu drwy dalu gyda cherdyn neu gydag arian/cerdyn yn un o’n swyddfeydd arian parod. Dyfynnwch y cod talu 2108 T357.

Codir y ffi hwn ledled Cymru ac mae’n cynnwys y gost o gynnal arolwg a chostau gweinyddu cysylltiedig.  Cynhelir yr ymweliad ail-sgorio cyn pen 3 mis o dderbyn y taliad a chewch wybod am y sgôr newydd yn ysgrifenedig.

Mae gennych hefyd hawl i ymateb yn dilyn eich arolwg a gyhoeddir ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ynghyd â'ch sgôr.  Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen hawl i ymateb.  Caiff y sylwadau hyn eu sgrinio gan swyddog priodol cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar y wefan. 

Ffurflen hawl i ymateb (PDF)

Cysylltwch â ni

Tudalennau cysylltiedig

Canfod sgorau hylendid bwyd

Gwefannau eraill

Asiantaeth Safonau Bwyd