Hyfforddiant hylendid bwyd

Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd yn ôl y gyfraith, sicrhau bod y rheiny sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio’n briodol ac yn cael cyfarwyddyd/hyfforddiant mewn hylendid bwyd yn unol â'u gweithgareddau gwaith a ddylai eu galluogi i drin bwyd yn ddiogel. 

Mae cyrsiau hylendid bwyd ar gael fel a ganlyn: 

  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd (cyfwerth â’r hen ddyfarniad ‘Lefel sylfaen mewn hylendid bwyd’ y SSIA)
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd (Lefel Ganolradd)
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Diogelwch Bwyd (lefel bellach) 

Fel canllaw, dylai’r rheiny sy’n trin bwyd sy’n paratoi bwydydd risg uchel, agored, gael hyfforddiant ffurfiol sydd gyfwerth â dyfarniad lefel 2.  Mae’r rhain yn gyrsiau ardystiedig a bydd yr ymgeisydd yn sefyll arholiad.  Un diwrnod yw hyd y cwrs fel arfer. 

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio’n benodol i’r rheiny sy’n trin bwyd ac sy’n cael eu cyflogi mewn mannau cynhyrchu, cyfanwerthu, dosbarthu, arlwyo a manwerthu.  Bydd yr hyfforddiant hefyd o fudd i reolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion busnesau bwyd. 

Mae’n arfer da i fusnes gadw cofnodion o hyfforddiant a gwblheir gan bob aelod o staff, i ddangos lefelau gallu unigol. 

Darparwyr hyfforddiant 

Mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (SSIA) wedi cynhyrchu adnodd canfod cyrsiau i’ch helpu i ddod o hyd i ganolfannau hyfforddi sy'n cynnal cyrsiau hylendid bwyd.

Cynigir cyrsiau hefyd gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus.

Cysylltwch â ni