Iechyd a Diogelwch yn y gwaith

Mae Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 yn ehangu ar ddyletswyddau cyffredinol Deddf Iechyd a Diogelwch ac ati yn y Gwaith 1974 i ddarparu a chynnal gweithle diogel.

Bwriedir i'r rheoliadau warchod iechyd a diogelwch pawb yn y gweithle, ac i sicrhau bod cyfleusterau lles digonol yn cael eu darparu i bobl yn y gwaith.

Er mwyn bodloni'r anghenion iechyd, diogelwch a lles holl aelodau'r gweithlu, gan gynnwys pobl ag anableddau, mae'n rhaid ystyried y canlynol:

Gweithle

  • Awyriad –mae'n rhaid i ystafelloedd gweithio gael eu hawyru'n ddigonol gyda chyflenwad o aer ffres a glan
  • Tymheredd – mewn ystafelloedd gwaith dylai'r tymheredd fod yn rhesymol gyfforddus heb yr angen am ddillad arbennig. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn ymarferol oherwydd prosesau oer/peth, mae'n rhaid cymryd pob cam rhesymol i gael tymheredd cyfforddus
  • Goleuo - dylai fod yn ddigon er mwyn galluogi pobl i weithio a symud yn ddiogel. Os yw'n angenrheidiol, dylid darparu golau mewn gweithfannau unigol ac mewn mannau lle mae risg penodol megis pwyntiau croesi ar lwybrau traffig
  • Deunyddiau glendid a gwastraff – mae'n rhaid cadw darnau gosod, gosodiadau ac arwynebeddau waliau, lloriau a nenfydau mewn cyflwr glan bob amser. Dylid storio gwastraff mewn cynwysyddion addas a chael gwared arnynt fel bo'r angen. 
  • Dimensiynau ystafell a gofod - dylid cael digon o ofod rhydd er mwyn caniatáu i bobl symud yn rhwydd. Ystyrir bod 11 metr ciwbig fesul person yn ddigonol, fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar gynllun a natur y gwaith
  • Gweithfannau a Seddi – dylid darparu gweithfannau digonol a seddi addas/addasadwy (lle bo'n angenrheidiol) ar gyfer gweithwyr. Dylai gweithwyr allu gadael gweithfannau'n rhwydd mewn argyfwng
  • Cynnal a chadw - dylid cynnal a chadw'r gweithle, darnau gosod a gosodiadau, er enghraifft systemau awyru mecanyddol, rhastl drysau caead sy'n rholio mewn cyflwr gweithiol effeithiol
  • Lloriau a llwybrau traffig – llwybrau traffig yn cynnwys llwybrau cerdded/cerbydau, gan gynnwys grisiau, ystolion sefydlog, drysau, mynedfeydd, mannau llwytho neu rampiau. Dylai lloriau a llwybrau traffig fod o led a chryfder digonol, gyda marciau a ffens lle bo hynny'n angenrheidiol. Ni ddylid lloriau fod â thyllau, fod yn anwastad neu'n llithrig heb unrhyw rwystrau. Yn ddelfrydol dylai llwybrau cerbydau fod yn un ffordd er mwyn peidio â chael cerbydau'n symud yn ôl gyda chyfyngiadau cyflymder ar waith
  • Drysau, clwydi, waliau, ffenestri tryloyw– dylent fod wedi'u gwneud o ddeunydd diogel neu gael eu gwarchod rhag eu torri. Os yw'n bosibl y bydd pobl yn cyffwrdd â'r rhain, dylid eu marcio neu roi nodweddion arnynt sy'n eu gwneud yn amlwg. 
  • Ffenestri/ffenestri to – dylid gallu cael mynediad at y rhain yn ddiogel i'w hagor gan ddefnyddio polion ffenestri neu offer arall lle bo'n angenrheidiol. Ni ddylent greu unrhyw berygl tra maen nhw ar agor. Os na allant gael eu glanhau o'r llawr yna dylid trefnu darpariaethau addas fel ffenestri gwyro a throi, ffrâm ar grog, offer mynediad symudol, harneisiau diogelwch
  • Drysau a chlwydi – dylid eu hadeiladu a'u gosod gyda dyfeisiadau diogelwch lle bo'n angenrheidiol. Lle maent wedi'u gosod ar y prif lwybrau traffig, gan agor y ddwy ffordd ac wedi'u colfachu'n gonfensiynol dylid gosod panel gweld tryloyw. Mae'n rhaid i ddrysau awtomatig gynnwys botwm stop ac mae'n rhaid cynnal a chadw'r nodweddion diogelwch yn briodol
  • Grisiau symudol a llwybrau cerdded symudol – dylai'r rhain fod yn gweithio'n ddiogel, a chynnwys unrhyw ddyfeisiadau diogelwch angenrheidiol. Dylent hefyd gael botwm stop mewn argyfwng sy'n hawdd i'w weld ac ar gael yn rhwydd. 

Lles gweithwyr

•    Toiledau a chyfleusterau ymolchi - dylid cadw'r rhain yn lân, wedi'u hawyru'n ddigonol ac wedi'u goleuo. Dylai'r cyfleusterau ymolchi gael dŵr poeth ac oer, sebon a thyweli glân neu ffyrdd eraill o lanhau neu sychu. Efallai hefyd y bydda angen darparu cawodydd, gan ddibynnu ar natur y gwaith.
  • Dŵr i'w yfed – yn ddelfrydol, dŵr iach o'r prif gyflenwad dŵr. Gellir darparu dŵr mewn poteli o ddŵr neu o gynwysyddion y gellir eu hail-lenwi cyhyd â'u bod yn cael eu hail-lenwi yn ddyddiol o leiaf. (oni bai eu bod yn beiriannau dosbarthu dŵr oer lle mae'r cynwysyddion yn cael eu dychwelyd i'r cyflenwr eu hail-lenwi)
  • Cyfleusterau newid/storio dillad – dylid darparu'r rhain i'r rheiny sy'n newid i ddillad gwaith arbennig. Dylai'r cyfleusterau hyn fod yn breifat ac ar gael yn rhwydd o ystafelloedd gwaith, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd gorffwys
  • Cyfleusterau gorffwys a bwyta prydau bwyd – dylid darparu'r rhain i weithwyr gael egwyl a bwyta i ffwrdd oddi wrth y gweithle lle mae risg o halogi. Gellir defnyddio ffreutur neu dŷ bwyta fel cyfleuster gorffwys cyhyd â nad oes rhaid prynu bwyd yno. Dylid darparu cyfleusterau gorffwys addas i ferched beichiog a mamau sy'n bwydo o'r fron. Dylent fod yn agos i gyfleusterau glanweithiol a lle bo'n briodol, gynnwys y cyfleuster i orwedd lawr. 

Cymorth cyntaf yn y gwaith

Mae Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 yn datgan ei bod yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu offer, cyfleusterau a phersonél digonol i alluogi cymorth cyntaf i weithwyr os ydynt yn cael niwed neu'n cael eu taro'n sâl yn y gwaith. Mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i bob gweithle ac i'r rheiny sy'n hunangyflogedig. Mae gwybodaeth bellach am Gymorth Cyntaf yn y gweithle ar gael ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. 

Gwybodaeth bellach

Mae gwefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynnig llawer o wybodaeth i fusnesau newydd sydd ar ddechrau, neu sydd am wybod beth sydd yn rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae'r Pecyn Iechyd a Diogelwch ar y wefan yn gadael i chi edrych am wybodaeth ar faterion iechyd a diogelwch penodol. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r canlynol:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Adeiladau'r Llywodraeth
Phase 1
Ty-Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5JH
Ffôn: 02920 263000
Gwefan: www.hse.gov.uk

Cysylltwch â ni