Safleoedd trwyddedig

Ydych chi'n gwneud digon i atal a rheoli unrhyw gam-drin ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich gweithle?

Pam ddylech chi fod yn bryderus?

Effaith ar eich staff

  • Niwed corfforol
  • Pwysau'n ymwneud â gwaith –a allai gael effeithiau tymor hir ar iechyd
  • Ofn a phryder
  • Anfodlonrwydd swydd a pherfformio'n wael

Effaith ar eich busnes

  • Colli amser staff oherwydd anafiadau neu bwysau
  • Trosiant staff uwch, gan arwain at fwy o gostau hyfforddi a recriwtio
  • Niwed i enw da eich busnes
  • Ceisiadau posibl am iawndal gan staff

Beth ddylech fod yn ei wneud?

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i warchod iechyd, diogelwch a lles eich gweithwyr, dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys pob math o drais yn ymwneud â'r gwaith, sydd wedi'i ddiffinio gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel: 'Unrhyw ddigwyddiad lle mae unigolyn yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu wedi dioddef ymosodiad mewn amgylchiadau'n ymwneud â'u gwaith'. Mae hyn yn golygu: -

  • cam-drin corfforol – gan gynnwys cicio, poeri, taro neu wthio, yn ogystal â cham-drin mwy difrifol gydag arfau
  • cam-drin geiriol -  gan gynnwys gweiddi, rhegi neu iaith sarhaus, cam-drin rhywiol neu hiliol
  • bygwth a brawychu.

Mae mynd i'r afael â cham-drin yr un fath â delio ag unrhyw achos arall posibl o niwed yn y gweithle, fel llithro a baglu a chodi llwythau trwm. 

Yn unol â'r gyfraith, mae'n ofynnol i chi gynnal asesiad risg. Ewch ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am gyngor ar sut i gynnal asesiad risg.

Bydd yr asesiad risg yn helpu i chi ganfod p'un ai a yw cam-drin yn broblem i'ch staff a'ch busnes, a sut y gallwch wella'r sefyllfa. Bydd yn eich helpu i greu polisi a gweithdrefnau ar gyfer delio â cham-drin, fel rhan o bolisi iechyd a diogelwch ehangach eich busnes. 

Sut i roi gwybod am ddigwyddiad

Mae gan gyflogwyr, unigolion hunangyflogedig a'r rheiny sy'n rheoli safleoedd rwymedigaeth cyfreithiol i roi gwybod am ddigwyddiadau penodol yn y gweithle.

Dysgwch am yr hyn sy'n ddigwyddiad y dylid rhoi gwybod amdano a sut i wneud adroddiad RIDDOR ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Darpariaeth Cymorth Cyntaf

Os achosir niwed, mae'n rhaid bod trefniadau ar waith i sicrhau bod y gweithiwr yn derbyn sylw cymorth cyntaf ar frys. Mae gwybodaeth am y gofynion hyn ar gael yn ei hadran Cymorth Cyntaf yn y gwaith.

Ffyrdd o leihau'r risg o gam-drin mewn safle trwyddedig

Am ragor o wybodaeth, gallwch lawr lwytho llawlyfr Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ganllawiau ar gyfer  Rheoli trais sy’n gysylltiedig â gwaith mewn safleoedd trwyddedig a manwerthu.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Trwyddedau alcohol ac adloniant