Trwydded Eiddo

PBydd angen trwyddedu eiddo sy'n gwerthu alcohol, sy'n darparu adloniant rheoledig a/neu'n darparu lluniaeth hwyrnos o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Mae trwyddedau eiddo yn cael eu cyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel yr awdurdod trwyddedu lleol.

Mae trwydded eiddo yn awdurdodi'r eiddo dan sylw i gynnal gweithgareddau trwyddedig.  Bydd angen trwydded eiddo i unrhyw fusnes bron sy'n gwneud un neu ragor o'r gweithgareddau hyn (h.y. gwerthu alcohol, darparu adloniant neu ddarparu lluniaeth hwyrnos). Gellir cyflwyno cais am drwydded safle hefyd ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fawr, er enghraifft pan fydd digwyddiad yn debygol o ddenu dros 500 o bobl sydd y tu allan i'r terfynau a osodir ar gyfer cyflwyno rhybudd digwyddiad dros dro.

Pan fo gwerthu alcohol yn un o'r gweithgareddau rydych chi'n eu cyflawni yn eich eiddo, bydd angen o leiaf un deiliad trwydded bersonol arnoch chi hefyd. Rhaid i ddeiliad trwydded bersonol gael ei enwi ar y drwydded eiddo fel y person cyfrifol a gelwir ef yn Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (GED).

Amodau trwydded

Gall unrhyw un o'r canlynol wneud cais am drwydded eiddo:

  • unrhyw un sy'n defnyddio neu'n cynnal busnes yn yr eiddo y mae'r cais yn berthnasol iddo
  • clwb cydnabyddedig
  • elusen
  • corff gwasanaeth iechyd
  • person sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ysbyty annibynnol
  • Prif Swyddog Heddlu yng Nghymru a Lloegr
  • unrhyw un sy'n cyflawni swyddogaeth statudol neu swyddogaeth o dan fraint Ei Mawrhydi
  • perchennog sefydliad addysgol
  • unrhyw berson arall a ganiateir fel y'i nodir yn rheoliad

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.

Ffioedd

Cliciwch yma am restr lawn o ffioedd trwydded

Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol

Ers mis Ebrill 2017 mae wedi bod yn drosedd i fanwerthwyr/prynwyr masnach i brynu alcohol ar gyfer gwerthiant ymlaen neu gyflenwad oddi wrth gyfanwerthwr y DU heb ei gymeradwyo.

Mae gwasanaeth gwirio ar gael ar GOV.UK i wirio bod y cyfanwerthwr wedi cael ei gymeradwyo gan CThEM, ac mae’r manylion a chyfeirir atynt yn y daflen ynghlwm oddi wrth Gyllid a Thollau EM.

Taflen Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol (PDF)

Sut i wneud cais

Rydych yn gwneud cais am eich trwydded ar-lein drwy wefan GOV.UK lle gellir cymryd taliad (os oes angen) yn electroneg.

Gwnewch gais am drwydded eiddo

Gwnewch gais am ddatganiad dros dro

Gwnewch gais am Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig i gael ei ddatgymhwyso

Dywedwch wrthym am fân newid i'ch eiddo

Gwnewch gais i amrywio eich trwydded eiddo (Gweler yr hysbysiad uchod)

Gwnewch gais i drosglwyddo'ch trwydded eiddo

Rhowch wybod i ni am ddiddordeb mewn eiddo o dan adran 178

Dywedwch wrthym am newid i'ch rhybudd awdurdod interim presennol

Dywedwch wrthym am newid i'ch caniatâd presennol i drosglwyddo

Rhowch wybod i ni fod eich cais yn cael ei ddileu fel goruchwyliwr eiddo dynodedig

Dywedwch wrthym am newid i'ch caniatâd presennol i gael ei ddynodi

Dywedwch wrthym am newid i'ch cais presennol i amrywio trwydded mangre i bennu unigolyn fel goruchwyliwr eiddo dynodedig

Rhowch wybod i ni am newid enw neu gyfeiriad 

Ymestyn neu adnewyddu eich taliad ffioedd blynyddol

Ffurflenni i'w lawr lwytho

Os hoffech wneud cais yn bersonol neu drwy'r post,  gallwch lawr lwytho pecyn cais a chanllawiau.

Os gwelwch yn dda cysylltwch â ni os oes angen copi papur o'r ffurflen arnoch.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd?

Mae'r amser a gymerir yn dibynnu ar bob cais unigol, fodd bynnag, mae'r cyfnod amser fel arfer yn amrywio o leiafswm o fis hyd at dri mis, ond gallai hyn fod yn hirach.

Ymgynghoriad

Pan gyflwynir cais, bydd cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod yn dilyn. Mae hyn yn caniatáu amser i awdurdodau cyfrifol ac unrhyw unigolyn, corff neu fusnes sy'n teimlo y gallai'r cais danseilio un neu fwy o'r amcanion trwyddedu i wneud cynrychiolaeth.  Ewch i adran hysbysiadau Deddf Trwyddedu 2003 i weld y ceisiadau cyfredol.

Cydsyniad mud

Mae awdurdodiad mud yn berthnasol i geisiadau am drwydded eiddo lle na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau yn unig. Mae hyn yn golygu os nad ydych wedi clywed gan y gwasanaethau trwyddedu ar ôl 28 diwrnod o gyflwyno'r cais, gallwch gymryd yn ganiataol y rhoddir y drwydded fel y gwneir cais amdano.

Os derbynnir sylwadau gan awdurdodau cyfrifol a/neu unrhyw bersonau eraill, yna mae'n rhaid i chi aros i'r cyngor benderfynu ar y cais cyn y gellir cynnal unrhyw weithgareddau trwyddedadwy. Noder y bydd gwasanaethau trwyddedu bob amser yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd gwrthwynebiadau yn cael eu derbyn.

Cynllunio digwyddiad?

Darganfyddwch beth fydd angen i chi ei wneud i gynnal digwyddiad cyhoeddus ym mwrdeistref sirol Caerffili drwy edrych ar ein hadran cynllunio a digwyddiadau i gael gwybodaeth am ystod o gefnogaeth a chanllawiau sydd ar gael gan ein Grŵp Cynghori Diogelwch Digwyddiad (GCDD).

Cysylltwch â ni