Cymeradwyo mangre ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil

I gynnal seremonïau partneriaeth sifil neu briodas mewn mangreoedd yng Nghymru neu Loegr, rhaid iddynt gael eu cymeradwyo.

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid eich bod yn berchennog neu’n un o’r ymddiriedolwyr ar y fangre er mwyn gwneud cais am ganiatâd i gynnal seremonïau partneriaeth sifil neu briodasau.

Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy fodd electronig) a chynnwys:

  • enw a chyfeiriad yr ymgeisydd
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol
  • cynllun o’r fangre sy’n nodi’n glir yr ystafell neu’r ystafelloedd lle cynhelir y gweithgareddau

Amodau’r drwydded

Amodau’r Drwydded – Cymeradwyo Mangre ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil (PDF 119kb)

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Yn awr gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais am gymeradwyo mangre fel lleoliad ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil

Dweud wrthym am newid i’ch amgylchiadau presennol

Cydsyniad mud

Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 2 fis gallwch weithredu fel pe bai’ch cais wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r cyfnod yn dechrau pan ddaw’r holl ddogfennau i law a phan gaiff y ffi berthnasol ei thalu.

Cysylltwch â ni