Trwydded metel sgrap

Rhaid i ddeliwr sgrap neu weithredwr achub moduron gael trwydded i fasnachu.

Taliadau trwydded

Cliciwch yma am restr lawn o ffioedd trwydded

Sut i wneud cais

Ffurflen gais a chanllawiau (PDF 73kb)

Map o’r Fwrdeistref Sirol (PDF 312kb)

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (PDF 62kb)

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol Rhaid i ymgeiswyr ddarparu Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol erbyn hyn mae gennym ddyletswydd i asesu addasrwydd ymgeiswyr am drwydded deliwr metel sgrap. Gallwch wneud cais am y dystysgrif hon yn www.gov.uk/government/publications/basic-checks.

Gall ceisiadau gael eu cyflwyno drwy’r post neu yn bersonol.  Dylai ffurflenni wedi eu cwblhau cael eu hanfon/postio at yr Awdurdod Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Os ydych chi'n dymuno ymgeisio'n bersonol, mae'r Is-adran Drwyddedu yn gweithredu system apwyntiad yn unig. Ni fydd ymgeiswyr sy'n ymweld â'r swyddfeydd heb apwyntiad yn cael eu gweld ac ni fyddant yn gallu gadael eu cais yn yr adeilad. Er mwyn gwneud apwyntiad, cysylltwch  â ni.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymgeisio, efallai y byddwn yn ymgynghori â chyrff perthnasol eraill ar eich cais, gan gynnwys, yn arbennig, yr Heddlu, Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, unrhyw awdurdod lleol arall ac Asiantaeth yr Amgylchedd / Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn dilyn ymgynghoriad, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Polisi Metel Sgrap (PDF) a ddaeth i rym ar 1 Ionawr. Mae'r Polisi yn nodi'r meini prawf y bydd y Cyngor yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ymgeisydd neu ddeiliad trwydded presennol yn addas i ddal trwydded deliwr metel sgrap.

IOs cawsoch eich dedfrydu’n euog o drosedd berthnasol, neu os ydym yn derbyn sylwadau gan unrhyw un o'r cyrff uchod, rhoddir rhybudd i chi ein bod yn bwriadu gwrthod eich cais. Wrth wneud hynny, rhaid i ni roi cyfle i chi, neu unrhyw berson arall a enwir ar y cais, i gyflwyno sylwadau. Os hoffech wneud sylwadau ar lafar, bydd gennych yr hawl i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor priodol, sy'n cynnwys aelodau etholedig y cyngor.

Nodwch: efallai bydd gofyniad cyfreithiol gan yr awdurdod trwyddedu i ddatgelu gwybodaeth bellach yn ymwneud â cheisiadau a thrwyddedau o dro i dro at ddibenion gorfodi'r gyfraith ac atal twyll.
Cysylltwch â ni