Galwad am Safleoedd Ymgeisiol

Beth yw safle ymgeisiol?

Mae safle ymgeisiol yn safle sy'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor gan barti â buddiant (e.e. datblygwr neu berchennog tir) i'w gynnwys, o bosibl, fel dyraniad yn yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Pa fath o safleoedd y gellir eu cyflwyno?

Mae croeso i dirfeddianwyr/cynigwyr gyflwyno safleoedd i’w defnyddio yn yr amryw ffyrdd y mae'r cynllun yn darparu ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, tir ar gyfer:

  • Tai; 
  • Cyflogaeth; 
  • Manwerthu;
  • Cyfleusterau Cymunedol;
  • Twristiaeth a Hamdden;
  • Ynni Adnewyddadwy;
  • Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr;
  • Seilwaith Trafnidiaeth;
  • Gwastraff;
  • Addysg;
  • Iechyd, Addysg  a Gofal Cymdeithasol;
  • Bioamrywiaeth;
  • Seilwaith gwyrdd;
  • Mwynau

Cyflwyno safle ymgeisiol

Digwyddodd yr alwad ffurfiol am safleoedd ymgeisiol rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021.

Cafodd cyfanswm o 144 o safleoedd eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer defnydd amrywiol gan gynnwys tai, cyflogaeth, addysg, twristiaeth, ynni adnewyddadwy a diwygiadau i ffin yr anheddiad.

Cafodd y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol hon ei chyhoeddi. Pwrpas y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol yw nodi pa dir a allai fod ar gael i'w gynnwys yn yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd, er nad yw cyflwyno Safle Ymgeisiol yn golygu bod y Cyngor yn ymrwymo i fynd â'r safle ymlaen i'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, mae partïon â diddordeb yn cael y cyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y Crynodeb o Asesiad Safleoedd Posibl Drafft, ar y porth ymgynghori.

Arddangosfeydd a sesiynau galw heibio

Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol

Mae cyfle i safleoedd ymgeisiol newydd gael eu cyflwyno fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir. Bydd yn ofynnol i unrhyw safleoedd newydd a gyflwynir lenwi ffurflen cyflwyno safle a darparu gwybodaeth ategol i ddangos bod y safle yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.

Rhaid cyflwyno safleoedd erbyn 30 Tachwedd 2022.

Cyn cyflwyno safle ymgeisiol, cafodd hyrwyddwyr safleoedd eu cynghori i adolygu'r Nodiadau Canllaw ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol, sy'n darparu cyngor ar y mathau o safleoedd sy'n debygol o fod yn dderbyniol a'r wybodaeth y bydd ei hangen i ategu cyflwyno safle ymgeisiol.

Roedd gofyn hefyd i hyrwyddwyr safleoedd droi at Fethodoleg Safleoedd Ymgeisiol, sy'n darparu trosolwg o'r broses ac yn egluro sut y bydd safleoedd sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r alwad am safleoedd ymgeisiol yn cael eu hasesu.

Hyfywedd Datblygu 

Mae Hyfywedd Ariannol yn ystyriaeth allweddol yn y broses asesu safleoedd. Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) 11 yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad hyfywedd gael ei gynnal ar gyfer safleoedd ymgeisiol i ddangos a yw'r safle'n hyfyw ai peidio.

Mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (MHD).  Crëwyd yr MHD fel model cynhwysfawr sy'n hawdd ei ddefnyddio y gall hyrwyddwyr safleoedd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio er mwyn asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu.

Rhaid i hyrwyddwyr safleoedd gyflwyno asesiad hyfywedd ariannol gan ddefnyddio'r MHD fel rhan o gam nesaf y broses asesu safleoedd ymgeisiol.

Gall peidio â chyflwyno asesiad hyfywedd olygu na fydd eich safle arfaethedig yn cael ei gynnwys yn y CDLlN ar Adnau.

Mae’r ffioedd ar gyfer darparu copi o’r DVM fel a ganlyn:

  • Safleoedd o 1-9 uned – £195 ynghyd â TAW
  • Safleoedd o 10-50 uned – £345 + TAW
  • Safleoedd 51-100 uned - £495 + TAW
  • Safleoedd o fwy na 100 o unedau - cost i’w gytuno gyda’r Cyngor yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig

Mae Nodyn Canllaw Hyfywedd wedi'i baratoi sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y broses hyfywedd.

Er mwyn derbyn copi safle-benodol o’r MHD, ynghyd â’r canllaw defnyddiwr a fideos, neu i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r MHD, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni