Parhad busnes

Ydych chi'n rhedeg eich busnes eich hun? Os ydych, oes gennych chi gynllun parhad busnes?

Mae cynllunio parhad busnes yr un mor bwysig ar gyfer cwmnïau bach fel y mae i gorfforaethau mawr. Gall cael cynllun parhad busnes wneud y gwahaniaeth rhwng cadw a cholli eich busnes mewn achos trychineb.

Beth yw parhad busnes?

Mae parhad busnes yn ymwneud â sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn cael ei baratoi mewn achos o argyfwng.

  • Sut y byddech yn parhau i weithredu?
  • A ydych yn darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cwsmeriaid?
  • A fyddai pethau'n 'fusnes fel arfer'?

Bydd cael cynllun profedig yn helpu i sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn dioddef yr amhariad lleiaf posibl ac yn y pen draw yn parhau i weithredu.

Pam parhad busnes?

Heb gynllunio parhad busnes effeithiol  gallai trychineb naturiol neu o wneuthuriad dyn arwain at: -

  • Methiant cyflawn o'ch busnes
  • Colli incwm
  • Colli enw da a/neu golli cwsmeriaid
  • Cosbau ariannol, Cyfreithiol a Rheoleiddiol
  • Materion adnoddau dynol
  • Effaith ar bremiymau yswiriant

Mae rhai risgiau busnes y dylech gynllunio ar eu cyfer

Os nad ydych yn gallu darparu gwasanaethau dan gontract, a ydych wedi ystyried pa fath o gosbau y gellid eu gosod?

A allai eich gwasanaethau hanfodol barhau yn ystod: -

  • Colli pŵer am 24 awr?
  • Colli pŵer dros amser hwyach?
  • Sut y byddai eich busnes yn gweithredu heb gyfrifiaduron neu delathrebu am ddiwrnod, wythnos neu fis
  • Pa rai o'ch gwasanaethau hanfodol a fyddai'n cael eu peryglu os yw eich adeilad yn cael ei wacáu am wythnos heb ddim mynediad iddo? Beth am fis?
  • Faint o staff fyddai eu hangen i barhau i ymdrin â thasgau allweddol a sut y byddech yn  darparu ar eu cyfer?
  • Oes gennych adeilad arall i weithio ynddo yn effeithiol? Ydi hyn yn ddigon? Ydi staff yn gallu gweithio o'r cartref?
  • Beth fyddai'n digwydd pe bai chwarter o'ch staff yn absennol oherwydd y fliw?
  • Pa mor hir y gallwch chi ymdopi heb feddalwedd neu offer swyddfa arbennig a pha mor hir y byddai'n ei gymryd i ailgyflenwi stociau?

Dylai eich cynllun ateb yr holl gwestiynau uchod, ac eraill wedi'u teilwra i weddu i'ch busnes.

Hunanasesiad

Os nad oes gennych gynllun bydd ein ffurflen hunanasesu, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i'w chwblhau, yn eich helpu i amlinellu materion y mae angen i chi eu hystyried er mwyn eich galluogi i baratoi ar gyfer argyfwng a allai amharu ar eich busnes. Os oes gennych gynllun, yna efallai y bydd yn eich helpu i nodi unrhyw faterion nad ydych wedi ystyried o'r blaen.

Ffurflen Hunanasesu (PDF)

Beth yw rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Er na all y cyngor baratoi eich cynlluniau i chi (chi sy’n gwybod yn well am eich busnes a’ch prosesau critigol), gall gynnig cyngor cyffredinol a chynorthwyo drwy roi manylion am wefannau defnyddiol a darllen pellach.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae 80% o fusnesau yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiad mawr heb gynllun parhad busnes naill ai byth yn ail-agor neu’n cau o fewn 18 mis
  • Amcangyfrifir bod 46% o fusnesau heb gynllun parhad busnes
  • O blith y rhai sydd â chynlluniau, dim ond 30% sydd wedi cael eu profi ac 1 o bob 5 wedi cael eu profi dim ond unwaith
  • Mae bron i 1 o bob 5 o fusnesau yn dioddef amhariad sylweddol bob blwyddyn

Gwybodaeth bellach

Os hoffech fwy o wybodaeth neu gyngor ar barhad busnes cysylltwch â Cynllunio mewn Argyfwng.

Cysylltwch â ni