Gweithio gyda chyflenwyr
Rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu mentrau bach a chanolig (MBaCh), gan gynnwys sefydliadau yn y sector gwirfoddol, cwmnïau cymdeithasol a ffatrïoedd a gefnogir.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r holl gyflenwyr, waeth beth yw eu maint, yr un cyfleoedd i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau. MBaCh yw busnesau bach a chanolig sy'n cyflogi llai na 250 o bobl. Ar hyn o bryd mae'r sector hwn yn cyfrif am 99% o'r busnesau yng Nghymru.
Ein nod yw datblygu perthynas waith gwell gyda chyflenwyr lleol, nodi'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag tendro am fusnes y cyngor, a’u cynorthwyo lle bynnag y bo angen er mwyn iddynt gyrraedd sefyllfa lle maent yn gallu cystadlu ag unrhyw sefydliad arall. Gall hyn fod dim ond rhoi arweiniad ar sut i gwblhau dogfen dendro yn ddigonol, neu gall fod yn gyflwyniad i adrannau eraill (e.e. y Tîm Cymorth Menter Busnes) ar gyfer hyfforddiant neu gymorth ariannol.
Swyddog Perthynas Cyflenwyr
Er mwyn helpu i gyrraedd ein nodau, rydym yn cyflogi Swyddog Perthynas Cyflenwyr, sydd yn ymroddedig i weithio gyda busnesau lleol (gan gynnwys cyrff y Sector Gwirfoddol, Cwmnïau Cymdeithasol a Ffatrïoedd a Gefnogir) trwy eu hannog i dendro am gontractau cyngor a darparu cymorth ac arweiniad lle bynnag y bo angen.
Ein nod yw:
- I ddatblygu cymorth caffaeliad gwell ar gyfer busnesau lleol
- I ddeall unrhyw rwystrau y gall busnes ddod ar draws, ac ymdrechu i ddileu unrhyw rwystrau diangen
- I ddeall anghenion ein gilydd
- I sicrhau manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd
Ein hamcanion yw:
- I ymgysylltu'n rhagweithiol â busnesau lleol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol a'r ardaloedd cyfagos drwy gyfres o seminarau, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd wyneb-yn-wyneb
- I ddatblygu perthynas gyda busnesau lleol er mwyn dod i ddeall eu galluoedd ac i'w helpu i ddeall ein gofynion
- I sicrhau bod prosesau tendro yn cael eu cadw mor glir a syml ag y bo modd er mwyn lleihau costau a lle bynnag y bo modd i becynnu tendrau mawr mewn lotiau llai
- I ddarparu canllawiau, cymorth a chyfleoedd hyfforddiant mewn meysydd fel e-gaffael; cwblhau tendrau; systemau rheoli amgylcheddol; iechyd a diogelwch; cynaladwyedd.
Rydym yn cefnogi egwyddorion "Agor Drysau" (PDF), y Siarter ar gyfer Caffaeliad sy'n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig.
Cofrestrwch eich busnes gyda ni
Rydym yn rheoli cronfa ddata o gyflenwyr ac rydym yn annog busnesau lleol i nodi manylion eu busnes i mewn i'r gofrestr hon.
Mae'r wybodaeth hon yn helpu prynwyr i ddeall yr hyn y gall y busnes ddarparu a nodi cyflenwyr addas ar gyfer gofyniad prynu penodol. Mae hefyd yn gweithredu fel mecanwaith i nodi unrhyw feysydd y gallai fod angen i'r busnes i wella arnynt er mwyn dod yn gystadleuol ac ennill y contract prynu.