Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Y Cyngor    Diogelu data a rhyddid gwybodaeth    Hawliau testun data

Hawliau testun data

Mae deddfau diogelu data yn gosod y rheolau ar sut rydym yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth am unigolion sy’n fyw (yr hyn a elwir ‘data personol’). Maent hefyd yn rhoi nifer o hawliau i’r unigolion yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanynt. 

Mae ein Polisi Diogelu Data yn disgrifio ein dulliau ni o ddiogelu data personol yn unol â’r deddfau diogelu data. 

Os ydych yn gwneud cais am fynediad i’ch data personol; neu i’w cywiro, eu dileu neu gyfyngu ar eu prosesu; os ydych yn gwrthwynebu’r gwaith o brosesu’ch data personol, neu os oes ceisiadau gennych sy’n ymwneud â chludadwyedd data neu broffilio/ gwneud penderfyniadau awtomataidd, mae gennym un mis i ymateb ichi, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni chodir ffi am y ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd angen ymestyn y cyfnod cydymffurfio neu os codir ffi am y cais.   

Dylech lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun isod os hoffech gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol.

Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun (PDF)

Gallwch wneud ceisiadau o dan gyfraith diogelu data yn uniongyrchol i’r adran neu faes gwasanaeth perthnasol, neu’n uniongyrchol i’r Uned Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol. Byddai o gymorth mawr pe gallech gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig (trwy lythyr neu e-bost) ac ymateb yn brydlon i unrhyw gwestiynau ychwanegol sydd gennym er mwyn ein galluogi ni i’ch cynorthwyo chi.

Er mwyn prosesu’ch cais, mae’n bosibl y bydd angen ichi ddarparu dull adnabod. Os ydych yn gwneud y cais ar ran rhywun arall, mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth o’ch awdurdod chi ynghyd â dull adnabod oddi wrthych. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac ni fydd y cyfnod cydymffurfio ar gyfer ymateb i’ch cais yn cychwyn hyd nes i’ch dull adnabod / dogfennau ategol ddod i law. 

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn ar gael isod neu gan  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i gael eich hysbysu

Mae gennych hawl i gael eich hysbysu am y prosesau i gasglu a defnyddio’ch data personol.  Gweler tudalen yr Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Hawl mynediad

Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r data personol a gedwir amdanoch. Byddai o gymorth pe gallech lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun gan gynnwys cymaint o fanylion â phosibl i’n galluogi ni i ddod o hyd i’r wybodaeth mae ei hangen. Mae’r ffurflen hefyd yn nodi’r dull adnabod a’r dogfennau ategol y bydd arnom eu hangen er mwyn prosesu’ch cais.   

Hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn inni gywiro data personol amdanoch sy’n anghywir, neu gynnwys data sydd ar goll.   

Hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn inni ddileu data personol amdanoch, neu eu dinistrio mewn rhai amgylchiadau penodol. Weithiau gelwir hyn ‘yr hawl i gael eich anghofio’. 

Hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn inni gyfyngu ar neu atal y defnydd o ddata personol amdanoch o dan rai amgylchiadau penodol. O dan yr hawl hon gallwch hefyd ofyn inni beidio â dileu neu ddinistrio’ch data personol. 

Hawl i gludadwyedd data

Mae gennych hawl i ofyn am gludadwyedd data mewn perthynas â’ch data personol o dan rai amgylchiadau penodol. Mae hyn yn golygu y gallwch dderbyn data personol amdanoch ar ffurf gyffredin y gall peiriant ei darllen, megis ffeil csv, a gallwch hefyd ofyn inni anfon y data personol hyn at sefydliad arall.

Hawl i wrthwynebu

Mae gennych hawl i wrthwynebu’r gwaith o brosesu data personol amdanoch o dan rai amgylchiadau penodol. Os cytunir i’r gwrthwynebiad, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch data personol ar gyfer y diben yr ydych yn ei wrthwynebu.

Hawliau’n ymwneud â phroffilio a gwneud penderfyniadau awtomataidd 

O dan rai amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sydd wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd yn unig os yw’r penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol neu unrhyw fater arall o’r un pwys. Lle caniateir i sefydliad wneud penderfyniadau wedi’u seilio ar brosesu awtomataidd yn unig, mae gennych hawl i:

  • fynegi’ch barn ynghylch y penderfyniad;
  • gofyn am esboniad o’r penderfyniad a’r canlyniadau posibl;
  • gofyn i fod dynol ymyrryd yn y broses gwneud penderfyniadau a herio penderfyniad

O dan yr hawl hon, gallwch hefyd wrthwynebu’r broses proffilio mewn rhai sefyllfaoedd penodol, gan gynnwys marchnata uniongyrchol.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Share on Facebook
Twitter Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl