Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Y Cyngor    Diogelu data a rhyddid gwybodaeth    Setiau data    Setiau data ardrethi busnes

Setiau data ardrethi busnes

Rhestr Raddio 2017

Mae’r rhestr hon yn cynnwys yr holl eiddo yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n talu ardrethi busnes. Mae’r data’n cynnwys cyfeirnod yr awdurdod bilio, cyfeiriad yr eiddo, disgrifiad o’r eiddo a’r gwerth ardrethol. Mae'r rhestr hon yn cael ei chynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

  • Rhagfyr 2019 (taenlen Excel)
  • Rhagfyr 2019 (ffeil CSV)

Data Ardrethi Busnes Eraill

Yn dilyn penderfyniad Tribiwnlys Haen Gyntaf (Hawl i Wybodaeth) EA/2018/003, nid yw'r Awdurdod bellach yn cyhoeddi data ardrethi busnes ar ei dudalen we data agored ac ni fydd yn datgelu gwybodaeth am gyfrifon ardrethi busnes mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan fod yr wybodaeth wedi'i heithrio yn rhinwedd Adran 41 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ('y Ddeddf') - gwybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol h.y.

Mae adran 41 o'r Ddeddf yn nodi eithriad o'r hawl i wybod lle darparwyd y wybodaeth y gofynnwyd amdani i'r awdurdod cyhoeddus yn gyfrinachol. Mae 2 gydran i'r eithriad (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

  1. The public authority must have obtained the information from another person. A person can be an individual, a company, a local authority or any other “legal entity”. The exemption does not cover information which the public authority has generated itself, although it may cover documents (or parts of documents) generated by the public authority if these contain confidential information provided by a third party. It is the information itself, and not the document or other form in which it is recorded, which needs to be considered. The information requested was provided to the Council by third parties for the purpose of calculating rates or reliefs and is information that a reasonable person would regard as confidential.
  2. Disclosure of the information would give rise to an actionable breach of confidence, and the confider, or any other party affected, may have the right to take action through the courts.

Prawf Budd y Cyhoedd

Mae gwybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol yn eithriad “absoliwt” ac nid yw'n destun prawf budd y cyhoedd fel y'i diffinnir gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Fodd bynnag, mae diddordeb y cyhoedd yn ystyriaeth sy'n ofynnol gan ddatblygiad y gyfraith gyffredin, ac mae'r llysoedd o'r farn bod yn rhaid i'r seiliau dros dorri cyfrinachedd fod yn ddilys ac yn gryf iawn. Mae wastad diddordeb gan y cyhoedd bob amser lle byddai datgelu gwybodaeth yn darparu atebolrwydd a thryloywder ar gyfer penderfyniadau a wneir gan y Cyngor gan fod hyn yn helpu cynnal hyder ac ymddiriedaeth, ac rydyn ni'n cydnabod bod budd cyhoeddus yn y cyhoedd gan wybod bod y Cyngor yn casglu ac yn gweinyddu ardrethi busnes yn iawn. Rydyn ni hefyd yn cydnabod diddordeb dilys y cyhoedd sy'n gysylltiedig â hyrwyddo, o bosibl, weithgaredd economaidd yn yr ardal drwy gyhoeddi lleoliadau a gwerthoedd ardrethol eiddo sy'n safleoedd busnes gwag.

Fodd bynnag, gan nid oedd unrhyw awgrym o amhriodoldeb neu annigonolrwydd ar ran y Cyngor mewn perthynas â gweinyddu ardrethi busnes, mae diddordeb y cyhoedd mewn gwybod bod y Cyngor yn gweinyddu ac yn casglu ardrethi busnes eiddo unigol wedi lleihau rhywfaint. Mae'r Cyngor hefyd yn hyrwyddo datblygiad economaidd yn yr ardal ac mae darpar fusnesau eisoes yn gallu defnyddio peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd a gwefannau eiddo i ddod o hyd i eiddo a allai fod yn addas ar gyfer eu hanghenion yn y dyfodol, ac am y rheswm hwn, rydyn ni o'r farn bod cyfleoedd datblygu economaidd yn yr ardal yn gallu cael eu hyrwyddo drwy ddulliau heblaw drwy gyhoeddi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani sydd, unwaith eto, yn lleihau dadl y cyhoedd dros roi'r wybodaeth yn gyhoeddus.

Am y rhesymau a amlinellir uchod, rydyn ni o'r farn nad yw diddordeb y cyhoedd yn ddigonol i orbwyso egwyddor y gyfraith gyffredin o gyfrinachedd trethdalwyr.

Hyd a lled yr Eithriad

Mae cymhwyso'r eithriad hwn yn berthnasol gan fod hunaniaeth y trethdalwr yn cael ei defnyddio ar y cyd â gweddill yr wybodaeth y gofynnwyd amdani i gyfrifo lefel y trethiant sy'n ddyledus ac, ym mis Rhagfyr 2019, fe'i derbyniwyd gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Hawl i Wybodaeth) yn achos rhif EA/2018/0033 fod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i heithrio yn rhinwedd Adran 41 o'r Ddeddf.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page

Tudalennau Cysylltiedig

Ardrethi busnes

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl