Maer
Maer Caerffili – Y Cynghorydd Carol Andrews
Penodwyd y Cynghorydd Carol Andrews yn Faer ar 3 Medi 2020 ac mae'n cymryd lle'r pennaeth dinesig sy'n ymadael, sef y Cynghorydd Julian Simmonds.
Derbyniodd Carol y swydd o fod yn Bennaeth Dinesig yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor - yr un cyntaf o bell - ddydd Iau 3 Medi.
“Mae’n fraint enfawr ymgymryd â rôl y Maer a gwasanaethu cymuned Bwrdeistref Caerffili. Hoffwn dalu teyrnged i’n Maer ymadawol, y Cynghorydd Julian Simmonds, sydd wedi profi amgylchiadau eithriadol yn ystod ei amser yn y swydd.
Bydd fy merch Megan yn ymuno â mi i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gymryd lle fy mam a fu farw yn anffodus iawn yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i Megan am gamu i'r gofod enfawr a adawodd fy Mam, a oedd yn Gonsort yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Faer; rydym yn edrych ymlaen at gyflawni ein rolau newydd, er gwaethaf y cyfnod anarferol hwn.”
Cafodd Carol ei magu ym Margod gan ei rhieni, Susan a Leighton, lle mynychodd Ysgol Santes Gwladys Bargod ac Ysgol Gyfun Heolddu. Dechreuodd hyfforddiant nyrsio gyda Sefydliad Nyrsio a Bydwreigiaeth De-ddwyrain Cymru ym 1991 a chymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym 1994. Gweithiodd Carol mewn nifer o ysbytai yng Nghaerdydd ar ôl cymhwyso, cyn ymgymryd â Diploma mewn Bydwreigiaeth ym 1998 gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.
Yn dilyn hyn, treuliodd Carol 17 o flynyddoedd yn gweithio mewn ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i weithio mewn ysbyty – ar y wardiau yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae hi wedi gweithio ar Ward Bargod yr ysbyty am y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ddiweddar wedi gofalu am gleifion â COVID-19.
Yn ogystal â'i merch, Megan, mae'n rhannu llysferch, Chelsea, â'i gŵr, Stephen. Bu gwleidyddiaeth o ddiddordeb i Carol ar hyd ei hoes a thrwy ei diweddar dad-yng- nghyfraith – sef cyn-Arweinydd y Cyngor, Harry Andrews MBE – fe ymunodd â'r blaid Lafur a chael ei hethol yn gynghorydd lleol yn 2017.
Cyhoeddwyd mai Dirprwy Faer Caerffili fydd y Cynghorydd June Gale, sy'n cynrychioli Bedwas, Tretomos a Machen.
Mae'r Maer yn croesawu gwahoddiadau i fynd i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau lleol Cysylltwch â Swyddfa'r Maer i gael rhagor o wybodaeth. Efallai na fydd hi'n bosibl i'r Maer fynd i bob digwyddiad, ond os yw'r Maer ar gael, byddwn yn cysylltu â chi mewn da bryd.
Meiri Blaenorol Caerffili
- 2019 - Julian Simmonds
- 2018 - Michael Adams
- 2017 - John Bevan
- 2016 - Dianne Price
- 2015 - Leon Gardiner
- 2014 - David Carter
- 2013 - Michael Gray
- 2012 - Gaynor Oliver
- 2011 - Vera Jenkins
- 2010 - James Fussell
- 2009 - John Evans
- 2008 - Anne Collins
- 2007 - Allen Williams
- 2006 - Elizabeth Aldworth