Materion Cydraddoldeb

Rydym yn gwrthwynebu gwahaniaethu mewn unrhyw ffurf ac mae ein haelodau etholedig ac aelodau staff yn gweithio er mwyn sicrhau bod pawb yn y cymunedau a wasanaethwn yn cael mynediad at ac yn elwa ar yr ystod lawn o wasanaethau, waeth beth yw eu hamgylchiadau neu gefndir unigol. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i barchu natur amrywiol y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'r fwrdeistref sirol.

Caiff y gwahanol feysydd sy'n cael sylw gan ein gofynion cyfreithiol, a elwir yn "nodweddion gwarchodedig" a chydraddoldeb eraill, ehangach, hawliau dynol a llinynnau iaith yn cael eu cynnwys yn fanwl yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Caiff y rhain eu dangos yn y rhestr isod.

  • Ailbennu rhywedd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Cenedligrwydd
  • Crefydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Hawliau dynol
  • Hil
  • Oed
  • Sgiliau Ieithyddol
  • Sipsiwn a theithwyr
  • Statws priodasol
  • Rhyw
  • Yr Iaith gymraeg

Mae ein datganiad Cydraddoldeb yn cynnwys yr holl grwpiau mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i'w hystyried.

"Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod bod gan bobl anghenion, gofynion ac amcanion gwahanol a byddwn yn gweithio'n weithredol yn erbyn pob math o wahaniaethu drwy hybu cysylltiadau da, a pharch at ei gilydd yn ein holl gymunedau, trigolion, aelodau etholedig, ymgeiswyr am swyddi a'n gweithlu, a rhyngddynt.

Byddwn hefyd yn gweithio i greu mynediad cyfartal i bawb i'n gwasanaethau, beth bynnag fo'u tarddiad ethnig, rhyw, oed, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ailbennu rhywedd, daliadau crefyddol neu ddi-gred, defnydd o'r Gymraeg, Iaith Arwyddion neu unrhyw iaith arall, cenedl, cyfrifoldeb am bobl ddibynnol neu unrhyw reswm arall na all gael ei gyfiawnhau.”

Mae ystod eang o ddeddfwriaeth a chyflogaeth rheoliadau mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Yng Nghymru, y ddau ddarn mwyaf pwysig o ddeddfwriaeth yw’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ceir hefyd cysylltiadau cryf â'r gwaith o ran Trosedd a Digwyddiadau Casineb dan faner Cydlyniant Cymunedol. 

Cysylltwch â ni