FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol

Yn amlinellu ein gweledigaeth a’n dull tymor hir i wella’r  adnabyddiaeth, rheolaeth a’r defnydd o’n hasedau.

Strategaethau Gwasanaeth

Rydym wedi gweithio o gynsail sylfaenol sydd yn datgan na ddylai strategaethau ffurfiol unigol gael eu hysgrifennu er mwyn “cael strategaeth”, ond bod  ysgrifennu strategaeth yn ddechrau’r broses ac mai adolygiadau rheolaeth yn y dyfodol o ariannu strategaethau sydd fwyaf pwysig.

Er gwaethaf diffyg Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol, mae’r cyngor wedi cyfrannu’n sylweddol i lwyddiannau blaenoriaethau corfforaethol a chanlyniadau drwy reoli ei asedau. Er enghraifft mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi gweld gwelliannau mawr yn ansawdd ein hysgolion cynradd ac uwchradd.  Yn ychwanegol mae "Adroddiad Cyflwr yr Ystâd", wedi ei gynhyrchu gan Wasanaethau Eiddo, yn crynhoi effaith strategaeth gyfredol resymoli eiddo’r cyngor.

Beth yw ased?

I’r perwyl hwn, mae “ased” yn cyfeirio’n unigryw at asedau materol, fel ‘adeilad’ neu ‘ffordd’, yn cael cylch bywyd ble gall cost gael ei roddi arno.

Er ein bod wedi cyfeirio at Adnoddau Dynol (AD), yn cydnabod y cysylltiadau rhwng staff, gweithio heini, a rheolaeth o adeiladau, mae’n faes sy’n hawlio cyd-weithio gwych rhwng bob maes drwy ardaloedd megis darpariaeth TG, ystyriaeth o wagle, a chynllunio cynhwysedd yn ogystal ag ardaloedd ‘meddalach’ fel diwylliant, ag ymddiriedolaeth, yna, mae tu allan i’r strategaeth hon.

Byddwn yn croesawu adborth ar gynnwys y dogfennau hyn eiddo@caerffili.gov.uk.