Polisi Gorfodaeth Diogelwch y Cyhoedd

Mae ein Is-adran Diogelwch y Cyhoedd yn cynnal ystod eang o swyddogaethau diogelu a rheoleiddiol, sydd yn ceisio diogelu, hyrwyddo a gwella iechyd, diogelwch a lles economaidd ein cymunedau a'n gweithwyr, yn ogystal â rheoleiddio masnach a'r amgylchedd. Maent hefyd yn gorfodi nifer o statudau, â llawer ohonynt yn cynnwys sancsiynau troseddol ar y rhai sy'n torri'r gyfraith.

Er mwyn sicrhau dull teg a chyson i'n cyfrifoldebau gorfodi rydym wedi cynhyrchu Polisi Gorfodaeth, sydd ar gael i'w lawrlwytho isod:

Polisi Gorfodaeth Diogelwch y Cyhoedd (PDF 59kb)

Mae'r polisi Gorfodi wedi'i gymeradwyo gan Bennaeth Diogelu'r Cyhoedd, Cymunedau a Hamdden a'r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd. Rydyn ni'n croesawu adborth am y polisi, yn enwedig ymatebion gan y bobl hynny y mae’n effeithio arnyn nhw. Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael yn Saesneg, ac mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Cysylltwch â ni