Newidiadau i’r gofrestr Etholiadol 

Gallwch wneud cais am newidiadau i’r gofrestr etholiadol yn ystod y canfasio blynyddol neu unrhyw amser arall o’r flwyddyn.

Canfasio blynyddol o’r gofrestr etholiadol

Bob blwyddyn yn ystod yr haf, rydym yn gwirio bod y wybodaeth sy’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol yn gywir ac wedi ei ddiweddaru. Byddwch yn derbyn ffurflen ymholiad blynyddol yn y post.

Bydd y ffurflen ymholiad blynyddol yn eich caniatáu i:

  • gywiro unrhyw gamgymeriadau
  • ychwanegu pobl yn eich cartref at y gofrestr (er enghraifft, efallai bod eich plant wedi cyrraedd 14 oed)
  • gwneud cais am bleidlais drwy’r post
  • ddod oddi ar y gofrestr wedi golygu

Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen hon i mewn. Os nad ydych yn cwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich cymryd oddi ar y gofrestr etholiadol ac ni fyddwch yn gallu pleidleisio a bydd yn anoddach i chi gael credyd.

Gwneud cais am newidiadau tu allan i ganfasio blynyddol

Os bydd eich amgylchiadau yn newid ar ôl y canfasio blynyddol, fel symud cartref neu newid eich enw, bydd angen i chi ailgofrestru.

Symud cartref

Os ydych yn symud adref ar ôl y canfasio blynyddol, bydd angen i chi ailgofrestru. Cofiwch bydd angen i bob person sy’n gymwys i bleidleisio yn y cartref gofrestru’n unigol. Ewch i’r cofrestru i bleidleisio i ddarganfod sut i bleidleisio.

Newid eich enw

Os yw eich enw yn newid, er mwyn diweddaru’r gofrestr etholiadol, bydd angen i gwblhau ac arwyddo ffurflen newid enw (PDF). Ni all gael ei gwblhau ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu dogfen berthnasol fel copi o’ch tystysgrif priodas, gweithred newid enw neu dystysgrif geni ddiwygiedig er mwyn mynd gyda’r ffurflen.

Dod i ffwrdd o’r gofrestr agored

Mae dwy gofrestr

  • Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestri enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac sy’n cael ei defnyddio am resymau etholiadol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhesymau cyfyngedig eraill yn benodol y gyfraith, fel datgelu trosedd, galw pobl ar gyfer gwasanaeth rheithgor a gwirio am geisiadau credyd. 
  • Mae’r gofrestr agoriadol yn rhan o’r gofrestr etholiadol ac nid yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau. Gall y rhestr hon gael ei brynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ar gyfer rhesymau marchnata. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael ei gynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael ei gymryd i ffwrdd. Ni fydd cymryd eich manylion i ffwrdd o’r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol ond gallech benderfynu gymryd eich manylion i ffwrdd o gael eich cynnwys ar y gofrestr agoriadol. Os ydych yn dymuno newid eich statws tynnu’n ôl, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni