Pleidleisio drwy ddirprwy
 

Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng

Os yw'r dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy wedi mynd heibio efallai y gallwch chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os yw'r ddau ohonoch chi:

  • yn methu pleidleisio yn bersonol oherwydd eich cyflogaeth neu anabledd
  • wedi cael gwybod am y rheswm hwn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer dirprwy

Gallwch chi wneud cais tan 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Rhaid cael ‘person priodol’ (er enghraifft eich cyflogwr neu feddyg) i lofnodi'r ffurflen gais. Anfonwch y cais i'r Adran Gwasanaethau Etholiadol.

Dirprwy mewn argyfwng oherwydd bod yr etholwr yn hunanynysu

Os ydych chi'n hunanynysu oherwydd canlyniad positif mewn prawf COVID-19 neu wedi dechrau cael symptomau coronafeirws, gallwch chi benodi dirprwy heb fod angen ardystiad gan ymarferydd meddygol. Gallwch chi wneud cais am hwn tan 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn eich galluogi i benodi person arall i bleidleisio ar eich rhan, naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post.

Pwy all bleidleisio drwy ddirprwy?

Er mwyn bod yn gymwys am bleidlais drwy ddirprwy, mae’n rhaid i chi ddweud wrthym y rheswm pam nad ydych yn gallu pleidleisio eich hunan. Gall hyn fod oherwydd:

  • Fod gennych anabledd corfforol. Yn yr achos hwn, efallai bydd angen i chi cynnwys datganiad fod y wybodaeth yn gywir gan y meddyg, nyrs neu warden cartref.

  • Fod eich gwaith yn eich cymryd i ffwrdd o’ch cartref naill ai yn barhaol neu ar ddiwrnod yr etholiad.

  • Byddwch ar wyliau pan fydd yr etholiad yn cael ei gynnal.

  • Rydych wedi symud tŷ ers i chi gofrestru a methu mynd i’ch hen orsaf bleidleisio.

Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

I bleidleisio drwy ddirprwy, naill ai un tro yn unig neu yn barhaol, bydd angen i chi gysylltu â ni am ffurflen gais.

Rhaid i’r person rydych yn dewis i bleidleisio fel eich dirprwy fod wedi cofrestru’n unigol i bleidleisio. Ni allent fod yn ddirprwy am fyw na dau etholwr (heblaw eu bod yn perthyn).

Os ydych yn dewis dirprwy, gallwch ddal fynd i orsaf bleidleisio a phleidleisio eich hun dim ond fod dirprwy heb bleidleisio ar eich rhan yn barod neu wedi gofyn am bleidlais drwy’r post.

Gall pleidleisiau drwy’r post gael eu hanfon at gyfeiriad y tu allan i’r DU, ond dylech gadw mewn cof yr amser y mae’n cymryd i anfon a dychwelyd eich papurau pleidleisio mewn amser ar gyfer yr etholiad. 
 

Cysylltwch â ni