News Centre

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Gosod Arwyneb Newydd ar Nifer o Gylchfannau

Postiwyd ar : 20 Ebr 2022

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Gosod Arwyneb Newydd ar Nifer o Gylchfannau
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae rhaglen gosod arwyneb newydd ar gylchfannau wedi digwydd mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae 26 o gylchfannau ledled y Fwrdeistref Sirol wedi cael arwyneb newydd yn costio cyfanswm o £1,734,689. Nod y rhaglen gosod arwyneb newydd hon yw sicrhau bod cymunedau Caerffili yn parhau i fod yn gysylltiedig a bod ein hisadeiledd ni'n blaenoriaethu diogelwch ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffyrdd.

Yn 2020, cafodd arwyneb newydd ei osod ar gyfanswm o 8 safle yn costio £854,802. Cafodd y rhaglen gychwynnol hon ei hehangu yn 2021 gyda 10 safle pellach yn cael arwyneb newydd yn costio £495,855. Yna, cafodd arwyneb newydd ei osod ar 8 safle arall yn 2021 gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru gwerth cyfanswm o £384,032.

Dywedodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
“Mae cadw trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gysylltiedig yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth rydyn ni'n ei darparu fel awdurdod lleol.
“Drwy osod arwyneb newydd ar gylchfannau ledled y Fwrdeistref Sirol, rydyn ni'n sicrhau bod ein hisadeiledd ni'n cadw pobl i symud ond, yn bwysicach fyth, yn cadw trigolion yn ddiogel.”

I roi gwybod am broblem o ran y priffyrdd, ewch i'n gwefan ni: www.caerphilly.gov.uk/Services/Roads-and-pavements/Road-works/Roadworks?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau