News Centre

Gwnewch y Pethau Bychain - Make One Small Change

Postiwyd ar : 05 Ebr 2022

Gwnewch y Pethau Bychain - Make One Small Change
Bob mis byddwn yn herio staff a phreswylwyr i wneud un newid bach i helpu i wella eu defnydd a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg ac i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod yn lle cynhwysol i weithio a byw ynddo.
 
Y mis hwn, rydyn ni'n eich annog chi i fynd i’ch llyfrgell leol chi a chasglu llyfr na fyddech chi fel arfer yn ei ddarllen.

P'un a ydych chi am ddarllen llyfr yn Gymraeg neu ddewis llyfr am gydraddoldeb, mae gan ein llyfrgelloedd ni ddetholiad gwych i chi ddewis ohono.

Dyma rai o argymhellion o ran llyfrau Cymraeg gan ein llyfrgellydd ni:
 
Tu ol i'r Awyr, Megan Angharad Hunter
Dyma nofel arloesol gan awdur ifanc talentog. Mae'n dilyn taith dau gymeriad yn eu harddegau, Deian ac Anest, a'u perthynas ryfeddol drwy angst eu bywydau. Mae'n nofel sy'n mynd i wneud i chi chwerthin yn uchel, crio, a synnu gan ddawn anhygoel Megan Hunter i dreiddio'n ddwfn i feddyliau dau gymeriad a fydd yn aros yn y cof am amser hir.
 
Y Bwrdd, Iwan Rhys
Os daeth rhywbeth da o Brexit, y nofel hon yw e! Adolygiad Rhys Iorwerth o Y Bwrdd.
Mae Carwyn wedi diflasu yn y gwaith. Byddai'n well ganddo fod yn coginio gartref ar gyfer ei bartner, Laticia, a'u merch, Alaw Abril. O leiaf mae popeth fel y dylai fod yn 8 Cynon Street. Ond efallai nad oedd Carwyn wedi bod yn talu digon o sylw, nes bod llythyr yn cyrraedd.

Yn y ‘rom-com’ dychanol hwn am deulu, y Gymraeg a Brexit, dilynwn yr hanes o Gaerdydd, i’r Tymbl ac ymlaen i Valencia.
 
Pan Wenodd y Lleuad, Horacek, Petr
Un noson, roedd popeth yn wyneb i waered ar y fferm ac roedd y lleuad yn gwrthod gwenu nes y bydd popeth wedi dod i drefn eto. Mae'n amser iddi oleuo'r sêr, fesul un.
 
Tractor ar Ras, Milbourne, Anna
Stori am Doli'r gaseg yn helpu tynnu tractor Cae Berllan o'r dŵr. Dyma argraffiad newydd clawr caled o gyfres boblogaidd i annog plant i ddechrau dysgu darllen eu hunain, gan gynnwys cyfle i chwilio am hwyaden fach felen ar bob tudalen. Addasiad Cymraeg o The Runaway Tractor.
 
 
Gan fod 2 Ebrill yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, isod mae rhestr o lyfrau a allai helpu gwella eich dealltwriaeth chi o Awtistiaeth a niwroamrywiaeth yn gyffredinol:
 
The Reason I Jump, Naoki Higashida
Nid ydych chi erioed wedi darllen llyfr fel The Reason I Jump. Wedi’i ysgrifennu gan Naoki Higashida, mae'n dweud y stori am fachgen tair ar ddeg oed sy'n graff iawn, hunanymwybodol iawn, a swynol iawn a sydd ag awtistiaeth. Mae’n gofiant unigryw sy’n dangos sut mae rhywun awtistig yn meddwl, yn teimlo, yn canfod, ac yn ymateb mewn ffyrdd y gall ychydig ohonom ni eu dychmygu
 
The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, Mark Haddon
Mae Christopher John Francis Boone yn adnabod holl wledydd y byd a'u prifddinasoedd a phob rhif cysefin hyd at 7,057. Mae'n uniaethu'n dda ag anifeiliaid ond nid oes ganddo ddealltwriaeth o emosiynau dynol.

Mae'r stori annhebygol hon am ymgais Christopher i ymchwilio i farwolaeth amheus ci yn y gymdogaeth yn creu un o'r nofelau mwyaf cyfareddol, anarferol, sydd wedi'i chyhoeddi'n eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
 
House Rules, Jodi Picoult
Pan na all eich mab chi edrych arnoch chi yn y llygad... ydy hynny'n golygu ei fod yn euog?

Mae Jacob Hunt yn fachgen yn ei arddegau sydd â Syndrom Asperger. Mae'n anobeithiol wrth ddarllen ciwiau cymdeithasol neu fynegi ei hun yn dda i eraill, er ei fod yn wych mewn sawl ffordd. Ond mae ganddo ffocws arbennig ar un pwnc - dadansoddi fforensig. Mae sganiwr heddlu yn ei ystafell yn rhoi gwybod iddo am leoliadau trosedd, ac mae bob amser yn ymddangos ac yn dweud wrth yr heddlu beth i'w wneud. Ac mae'n iawn fel arfer.
 
Mockingbird, Kathryn Erskine
Enillydd Gwobr Llyfr Cenedlaethol ar gyfer Llenyddiaeth i Bobl Ifanc ac un o nofelau pwysicaf ein hoes ni i ddarllenwyr ifanc.

Mae Caitlin yn ferch sydd â Syndrom Asperger. Du a gwyn yw'r byd yn ei hôl hi; mae unrhyw beth yn y canol yn ddryslyd. Yn gynt, pan aeth pethau’n ddryslyd, aeth Caitlin at ei brawd hŷn hi, Devon, am help. Ond cafodd Devon ei ladd o ganlyniad i ymosodiad saethu yn yr ysgol, ac mae tad Caitlin mor drallodus fel nad yw'n gallu ei helpu hi rhagor. Mae Caitlin eisiau i bopeth fynd yn ôl i'r ffordd yr oedd pethau, ond nid yw'n gwybod sut i wneud hynny.
 
Ewch i’ch llyfrgell leol chi i nôl llyfr heddiw, neu ddefnyddio ein gwefan ni i wirio beth sydd mewn stoc, benthyg e-Lyfrau am ddim a rhagor: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/caer_cy

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain dilynwch @CaerphillyCBC ar Facebook a Twitter.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau