News Centre

Anogir trigolion i gofrestru i bleidleisio

Postiwyd ar : 12 Ebr 2022

Anogir trigolion i gofrestru i bleidleisio

Ond 3 diwrnod sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai 2022.

Mae trigolion Caerffili yn cael eu hannog i gadw llygad allan am wybodaeth bwysig ynghylch cofrestru i bleidleisio cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai.

Mae'r llythyron hysbysu cartrefi yn ymwneud â'r etholiadau llywodraeth leol sydd ar y gweill ar gyfer Cyngor Caerffili a chynghorau tref a chymuned ym Mwrdeistref Caerffili.

 
Bydd y llythyron yn sicrhau bod y cofnodion etholiadol yn gywir, yn manylu ar sut i ychwanegu/newid unrhyw gofnodion ac yn annog y rhai sydd ddim wedi cofrestru i bleidleisio i wneud hynny cyn y dyddiad cau o hanner nos, dydd Iau, Ebrill 14.
 
Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio  Darllenwch y llythyr yn ofalus a gwirio bod y manylion yn gyfredol.
 
Mae'r Cyngor yn arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl ifanc 16/17 oed a dinasyddion tramor wedi'u cofrestru i bleidleisio. Yn dilyn cyflwyniad deddfwriaeth newydd yng Nghymru, gall unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn ar 5 Mai ac sy’n preswylio’n gyfreithiol yng Nghymru gymryd rhan yn yr etholiadau.
 
Y rhain hefyd fydd yr etholiadau cyntaf i gael eu gweinyddu ar y trefniadau ffiniau newydd. Gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais mewn ward etholiadol wahanol i'r un y maen nhw wedi pleidleisio ynddi o'r blaen. Mae gan rai wardiau newidiadau tra bod rhai yn aros yr un fath. Darperir rhagor o wybodaeth yn y cyfnod cyn yr etholiadau.
 
Bydd Caerffili hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot pleidleisio hyblyg a bydd manylion ynghylch sut y gall pleidleiswyr bleidleisio cyn 5 Mai yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, bydd y safle hwn yn weithredol rhwng 10am a 4pm.
 
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
 
Os na fyddwch chi’n gallu mynd i orsaf bleidleisio, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.

Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol: https://www.electoralcommission.org.uk/cy 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yw 5pm ar 19 Ebrill.


Ymholiadau'r Cyfryngau