News Centre

Y Cyngor yn cymryd camau gorfodi ar gyfer parcio anghyfreithlon mewn mannau parcio i breswylwyr

Postiwyd ar : 19 Ion 2022

Y Cyngor yn cymryd camau gorfodi ar gyfer parcio anghyfreithlon mewn mannau parcio i breswylwyr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael nifer o gwynion yn ddiweddar ynghylch camddefnyddio mannau parcio i breswylwyr ac, felly, mae'n atgoffa preswylwyr i barcio mewn cilfachau preswylwyr dim ond os gallwch chi arddangos trwydded breswylydd neu ymwelydd ddilys.

Bydd cynnydd mewn gorfodi yn erbyn parcio anghyfreithlon yn digwydd ledled y Fwrdeistref Sirol i sicrhau defnydd teg o fannau parcio i breswylwyr.

Yn ôl yn 2019, cymerodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddyletswyddau gorfodi parcio oddi wrth Heddlu Gwent. Roedd trosglwyddo pwerau'n caniatáu i'r Cyngor ddarparu dull cydgysylltiedig a chyson o orfodi rheoliadau traffig a helpu gwella diogelwch ar y ffyrdd, llif traffig a lleihau rhwystrau.

Os hoffech chi ofyn i gamau gorfodi gael eu gwneud mewn lleoliad penodol neu roi gwybod am gerbyd sydd wedi'i barcio'n anghyfreithlon, gallwch wneud hynny drwy wefan y Cyngor: www.caerphilly.gov.uk/Services/Transport-and-parking/Civil-Parking-Enforcement-(CPE)?lang=cy-gb

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Eiddo ac Isadeiledd, “Rydyn ni'n gwybod bod y mwyafrif o drigolion yn ystyriol o’u harferion parcio, fodd bynnag, mae lleiafrif sy’n parhau i barcio’n anghyfreithlon heb unrhyw ystyriaeth i’r rhai sydd wedi talu am drwyddedau parcio. Bydd ein Tîm Gorfodi Parcio yn cynyddu gorfodi er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn yn rhagweithiol wrth symud ymlaen.”


Ymholiadau'r Cyfryngau