News Centre

Yn galw ar holl blant a phobl ifanc 0-25 oed i ymuno yn yr hwyl gyda ni yr haf hwn

Postiwyd ar : 27 Gor 2022

Yn galw ar holl blant a phobl ifanc 0-25 oed i ymuno yn yr hwyl gyda ni yr haf hwn
Yn dilyn y rhaglenni llwyddiannus ‘Haf o Hwyl’ yn 2021 a ‘Gaeaf Llawn Lles’, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i gefnogi ‘Haf o Hwyl’ yn 2022.

Mae Haf o Hwyl yn darparu gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r gweithgareddau yn cael eu darparu er mwyn helpu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pobl ifanc. Eleni, mae gweithgareddau am ddim yn cynnig cymorth i’n pobl ifanc ni ac yn helpu teuluoedd ledled Cymru gyda chostau byw cynyddol dros fisoedd yr haf.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn Haf o Hwyl Caerffili 2022! Byddwn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim gan gynnwys chwarae, adloniant, chwaraeon a hamdden a gweithgareddau diwylliannol dros yr haf. Gallwch chi edrych ymlaen at badlfyrddio, gweithdai dylunio ffasiwn, teithiau dydd, gwersylloedd chwaraeon, sesiynau crefft, adrodd straeon, teithio trwy geunentydd, gweithdai cyfrwng Cymraeg a phopeth rhyngddyn nhw.

Mae amrywiaeth o sefydliadau yn helpu cyflwyno Haf o Hwyl Caerffili; Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Teuluoedd yn Gyntaf, Dull Byw Hamdden, Menter laith Sir Caerffili, Y Rhwydwaith Rhieni, RCV UK, Rhisga, Chwaraeon Caerffili, The Parish Trust, Urdd Gobaith Cymru.
 
Rhestr lawn o weithgareddau a sut i gadw lle: Cliciwch yma!


Ymholiadau'r Cyfryngau