News Centre

Disgyblion Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn codi arian ar gyfer pennaeth annwyl

Postiwyd ar : 11 Gor 2022

Disgyblion Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn codi arian ar gyfer pennaeth annwyl
Cymerodd tua 110 o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, ffrindiau ac aelodau o deuluoedd ran yn ras hwyl Ras am Oes, 'Pretty Muddy', ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf, er budd Ymchwil Canser.
 
Ar ôl i'r pennaeth hoffus, Anita Tucknutt, gael diagnosis o ganser y coluddyn yn gynharach eleni, penderfynodd y disgyblion ar gymryd rhan yn y ras.
 
Ras am Oes yw cyfres fwyaf y Deyrnas Unedig o ddigwyddiadau i godi arian dros Ymchwil Canser.

Yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig, roedd y digwyddiadau’n cynnwys llwybrau 3 chilomedr, 5 cilomedr a 10 cilomedr i gyfranogwyr gerdded, loncian neu redeg, yn ogystal â'r digwyddiad rhwystr, Pretty Muddy.

Wedi’i gychwyn dros 25 mlynedd yn ôl fel digwyddiad i fenywod yn unig, mae Ras am Oes wedi tyfu’n gyfres o gannoedd o ddigwyddiadau ledled y wlad, gan godi bron i £500 miliwn tuag at drechu canser dros y chwarter canrif diwethaf.

Yn 2019, am y tro cyntaf, agorodd Ras am Oes ei drysau i ddynion gymryd rhan hefyd, gan ei gwneud yn wirioneddol gynhwysol, a rhoi cyfle i bobl ddod ynghyd â’u teulu a’u ffrindiau ac ymuno â’r mudiad i drechu canser.
 
Dywedodd Helen Marsh, Pennaeth Dros Dro, “Rydyn ni'n gymuned ysgol glos  iawn. Ar ôl clywed y newyddion am ein Pennaeth annwyl ni, roedd y gymuned yn teimlo’n gryf eu bod nhw eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol i anfon neges fel ysgol ein bod ni y tu ôl i Mrs Tucknutt yn ei brwydr hi yn erbyn canser.
 
“Mae’r plant yn teimlo fel maen nhw wedi’u grymuso a'u bod nhw yma i helpu ac i wneud gwahaniaeth, ac mae hynny’n bwysig iawn i ni fel cymuned ysgol. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan ein hysgolion clwstwr ni a’n cymuned leol ni wedi bod yn rhagorol ac yn dystiolaeth i’r gymuned rydyn ni mor ffodus i fod yn rhan ohoni.”
 
Ychwanegodd Anita Tucknutt, “Weithiau mewn bywyd, rydych chi'n wynebu storm sy'n effeithio arnoch chi yn ddwfn iawn, a dyna'n union oedd fy niagnosis o ganser eleni.
 
“Er bod y frwydr o’n blaenau ni’n un anodd, mae'r gefnogaeth aruthrol gan gymuned fy ysgol i – fy nheulu Cwm Gwyddon – yn fy nghadw fi’n gryf ac yn barod i wynebu’r frwydr o fy mlaen i.
 
“Maen nhw wedi ymgasglu gyda’u meddyliau caredig a’u dymuniadau gorau, gan sefydlu digwyddiad tîm y gallai fy holl ddisgyblion, rhieni, ffrindiau a theulu gwych ymuno er mwyn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig drwy redeg y Ras am Oes.
 
“Rydyn ni eisoes wedi codi dros £7,000 ar gyfer yr elusen wych hon. Mae'n dystiolaeth am ba mor agos ydyn ni fel ysgol a chymuned gyda phawb yn dod at ei gilydd, a pha ffordd well o gael hwyl na thrwy rolio o gwmpas yn y mwd!
 
“Diolch yn fawr iawn - TEULU CWM GWYDDON”
 
Gyda'i gilydd, mae'r disgyblion wedi codi'r swm anhygoel o £7,140.07 ers cynnal y digwyddiad.

Os oes unrhyw un yn dymuno cyfrannu, mae’r ddolen yma:  Ysgol Cymuned Cwm Gwyddon (cancerresearchuk.org)


Ymholiadau'r Cyfryngau