News Centre

Ysgol Gynradd Deri yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Postiwyd ar : 20 Gor 2022

Ysgol Gynradd Deri yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig
Mae Ysgol Gynradd Deri wedi ennill Gwobr Goffa Catherine a Daniel Phillips gan Sefydliad Hodge yn ystod cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
 
Yn ogystal â thystysgrif am ddod yn gyntaf, cafodd y disgyblion wobr ariannol o £250 am eu prosiect nhw i amlygu hanes capel lleol, Capel Ysgwydd Gwyn yn Neri, a gafodd ei gau y llynedd.
 
Cafodd y disgyblion yn y Clwb Hanes help gan flynyddoedd 4, 5 a 6 wrth ymchwilio i hanes Capel Ysgwydd Gwyn ac wrth drafod effaith addoldai ar gymunedau lleol. Edrychodd y plant ar yr adeilad ei hun a sut y mae’n rhan flaenllaw o’r gorwel yn Neri. Yn sgil hynny, gwnaeth y clwb Hanes ymchwilio i’r tirluniwr o Gymru, Martyn Evans, sydd wedi portreadu tirweddau a oedd yn eu hatgoffa nhw o Dderi. Cafodd y disgyblion eu dylanwadu gan Martyn Evans i greu eu gwaith celf eu hunain ar gyfer y prosiect.
 
Dywedodd Miss Bourne, sy’n arwain Clwb Hanes yr ysgol, “Rydw i mor falch o’r holl waith caled a wnaeth y plant i wneud y prosiect hwn mor llwyddiannus. Roedd Capel Ysgwydd Gwyn yn rhan allweddol o’r gymuned yma yn Neri ac roedd y plant wrth eu boddau yn dysgu am ei hanes. Gweithiodd y disgyblion yn galed fel tîm ac maen nhw’n llwyr haeddu eu gwobr nhw.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn cymryd rhan yn Ysgol Gynradd Deri am y cyflawniad gwych hwn. Mae’r wobr gyntaf yn dyst i waith caled ac angerdd y disgyblion a dylai pawb fod yn falch iawn o’u llwyddiant.”


Ymholiadau'r Cyfryngau