News Centre

Dyfarnu statws Y Faner Werdd i nifer o barciau a mannau gwyrdd ym Mwrdeistef Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 28 Gor 2022

Dyfarnu statws Y Faner Werdd i nifer o barciau a mannau gwyrdd ym Mwrdeistef Sirol Caerffili
Mae wyth man gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu gwobrwyo â statws y Faner Werdd gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r cynllun Gwobrau’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd ledled y DU a gweddill y byd sydd wedi’u cynnal yn dda, sydd â chyfleusterau rhagorol i ymwelwyr ac sydd â safonau amgylcheddol uchel.

Cafodd Parc Penallta wobr y Faner Werdd am y tro cyntaf erioed; mae’n ymuno â Pharc Morgan Jones, Parc Ystrad Mynach, Ffordd Goedwig Cwmcarn, Tŷ Penallta, Mynwent Brithdir, Parc Waunfawr Crosskeys a Pharc Cwm Darran sydd i gyd yn meddu ar statws y Faner Werdd ar hyn o bryd.

Mae 265 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi ennill gwobrau mawreddog Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Mae rhaglen Gwobrau’r Faner Werdd wedi’i chyflwyno yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, “Mae gan ein mannau gwyrdd lleol ran hanfodol i’w chwarae yn ein cysylltu ni â’r byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn dyst bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.

“Mae’r safon sy’n ofynnol i gyflawni statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rydw i eisiau llongyfarch yr holl safleoedd a gafodd gydnabyddiaeth am ddarparu cyfleusterau rhagorol drwy’r flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr.”

Ychwanegodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus, “Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn i longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr, sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Fannau Gwyrdd, “Mae gennym ni barciau a mannau gwyrdd anhygoel yn ein sir ac mae staff yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod y safonau’n cael eu cynnal yn y lleoliadau arobryn hyn a’n holl barciau.

“Rydw i wrth fy modd gweld Parc Penallta yn cael ei ychwanegu i deulu’r Faner Werdd eleni ac yn gobeithio bod y gymuned yn parhau i fwynhau’r perl cudd hwn a phopeth sydd ganddo i’w gynnig.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://keepwalestidy.cymru/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau