News Centre

Digwyddiad rhwydweithio ar gyfer busnesau Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 05 Gor 2022

Digwyddiad rhwydweithio ar gyfer busnesau Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd busnesau i ddod i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig, a fydd yn cael ei gynnal am 5.30pm ddydd Mercher 13 Gorffennaf yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AA.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Dîm Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu’r Cyngor a bydd yn cynnig cyfle i'r rhai sy'n dod gwrdd â staff y Cyngor, Cynghorwyr, a busnesau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Dyma’r ail mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfle i fusnesau rannu arfer gorau, wrth ddarganfod hefyd fwy am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw gan y Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu.

“Byddwn ni hefyd yn trafod datblygiadau newydd cyffrous sydd ar y gweill ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac yn gofyn i fusnesau roi eu hadborth i ni ar y cynigion. Mae’n bwysig ein bod ni'n ymgysylltu â’r gymuned fusnes, felly, byddwn i'n annog busnesau lleol i gofrestru, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed eu hadborth nhw.”

Bydd y digwyddiadau busnes yn cael eu cynnal yn y pum prif dref ledled y Fwrdeistref Sirol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i'r Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghoed Duon, neu i gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol, e-bostiwch MarchnataCymorthBusnes@caerphilly.gov.uk. 


Ymholiadau'r Cyfryngau