News Centre

Beicwyr yn dwli ar lwybr beicio wedi'i arwynebu

Postiwyd ar : 01 Gor 2022

Beicwyr yn dwli ar lwybr beicio wedi'i arwynebu
Mae'r llwybr beicio rhwng Tredegar Newydd ac Abertyswg wedi cael ei ganmol gan feicwyr lleol ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gwblhau gwaith arwynebu ar ran ohono.
 
Ym mis Chwefror, fe gafodd rhan o'r llwybr beicio cenedlaethol, Llwybr 468, rhwng Tredegar Newydd ac Abertyswg – a oedd dan ddŵr a'r wyneb heb ei rwymo – ei wella'n sylweddol. Fe gafodd nodweddion draenio eu gosod er mwyn gwella'r problemau o ran dŵr ffo, ac fe gafodd milltir o'r llwybr beicio ei arwynebu gan sicrhau wyneb tarmac llyfn i wneud y llwybr hwn yn llawer mwy hygyrch i bob defnyddiwr.
 
Meddai Sustrans, elusen sydd wedi ymrwymo i sicrhau ei bod hi'n haws i bobl gerdded a beicio, “Mae tîm Teithio Llesol Caerffili wedi gwneud gwaith gwych o ran uwchraddio'r rhan hon o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i safon uchel iawn yn sgil cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae adborth gwych yn dod i law gan y cyhoedd, ac mae'n galluogi pobl i wneud teithiau pob dydd heb ddefnyddio'r car. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r awdurdod lleol i wella ac ehangu'r rhwydwaith.”
 
Meddai'r Cynghorydd Julian Simmonds, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth, “Rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith arwynebu'r llwybr beicio rhwng Tredegar Newydd ac Abertyswg yn cael ei fwynhau gan ein trigolion a'r rhai sy'n ymweld â'r ardal.
 
“Rydyn ni, yn Nhîm Caerffili, yn awyddus i greu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy er mwyn creu Bwrdeistref Sirol lanach a gwyrddach i bawb.”

Dewch o hyd i wybodaeth am lwybrau beicio lleol yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau