News Centre

Cydnabyddiaeth i Ysgol Gymraeg Penalltau am eu gwaith gyda’r Gymraeg

Postiwyd ar : 26 Gor 2022

Cydnabyddiaeth i Ysgol Gymraeg Penalltau am eu gwaith gyda’r Gymraeg
Mae Ysgol Gymraeg Penalltau yn Hengoed, Caerffili wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith am eu gwaith yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg.
 
Prosiect a gafodd ei gyflwyno gan Gynulliad Cymru i holl ysgolion y wlad yw’r Siarter Iaith, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, datblygu ethos Cymreig ac annog disgyblion i wella’u sgiliau Cymraeg nhw, gyda’r nod o gynyddu defnydd cymdeithasol o’r iaith gan blant a phobl ifanc.
 
Mae tair gwobr gan y Siarter Iaith: efydd, arian ac aur, a phob un â’i thargedau unigryw ei hun. Mae rhai o’r targedau ar gyfer y wobr aur yn cynnwys:
  • Gall disgyblion siarad Cymraeg yn hyderus mewn ystod o sefyllfaoedd y tu allan i’r dosbarth
  • Mae gan ddisgyblion lyfrau darllen Cymraeg unigol ac yn parhau i gael sesiynau darllen dan arweiniad yn rheolaidd
  • Mae gan y rhan fwyaf o’r disgyblion ddealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith Cymru ac yn ymwybodol o’r manteision o ddysgu Cymraeg
  • Mae gan bron bob disgybl agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu Cymraeg 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Penalltau am ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith.

“Rydyn ni’n Fwrdeistref gyda gwreiddiau Cymreig cryf ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnwys y Gymraeg ym mhopeth a wnawn ni.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau