News Centre

Disgyblion Ysgol Uwchradd Bedwas yn dod yn gyntaf ac yn ail yn y Gystadleuaeth Aer Glân

Postiwyd ar : 21 Meh 2022

Disgyblion Ysgol Uwchradd Bedwas yn dod yn gyntaf ac yn ail yn y Gystadleuaeth Aer Glân
Cymerodd disgyblion Ysgol Uwchradd Bedwas ran mewn cyfres o weithdai a gafodd eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar ffynonellau llygredd aer a’r effaith y maen nhw'n ei chael ar iechyd.

Roedd Ysgol Uwchradd Bedwas yn un o 40 o ysgolion i gymryd rhan yn y fenter a gafodd ei chyflwyno gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru/STEM Cymru.

Fel rhan o’r gweithdy, cafodd y disgyblion eu herio i ddylunio arwydd ffordd i annog gyrwyr i arafu er mwyn lleihau llygredd a helpu gwneud yr aer y maen nhw'n ei anadlu’n lanach.

Enillodd Miley Fletcher, disgybl Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Bedwas, y gystadleuaeth gyda’i dyluniad a daeth Thomas Lukins, disgybl Blwyddyn 8, yn ail ar y cyd gyda disgybl arall o Ysgol Crist y Gair yn Abergele.

Bydd arwydd buddugol Miley yn cael ei gynhyrchu a’i osod mewn lleoliadau ledled Cymru lle mae’r terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr yn ei le.

Meddai Miley, “Roeddwn i wrth fy modd ac yn gyffrous iawn ac yn hapus pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi ennill! Roeddwn i eisiau creu dyluniad a oedd yn fyr ac yn fachog, heb fod yn tynnu sylw gyrwyr yn ormodol, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth o aer glanach ar yr un pryd. Rydw i'n teimlo bod fy nyluniad i'n gwneud hyn ac rydw i’n falch iawn o fy nghyflawniad i.”

Mae Miley wedi ennill taleb rhodd gwerth £50 ac mae Thomas wedi ennill un gwerth £25 gyda’r ddau ddisgybl yn cael gwobrau maint A4.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Iechyd yr Amgylchedd, “Mae llygredd aer yn bryder cenedlaethol ac, yn anffodus, rydyn ni i gyd yn cyfrannu at y broblem mewn rhyw ffordd. Rydw i’n falch o weld ysgolion yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth a gobeithio y bydd hyn yn annog pawb i wneud newidiadau yn eu bywyd nhw o ddydd i ddydd i helpu lleihau llygryddion aer a gwella ansawdd aer. 

“Llongyfarchiadau i Miley a Thomas ar eu llwyddiant nhw yn y gystadleuaeth genedlaethol, mae’r dyluniadau’n wych a dylai’r ddau fod yn falch iawn o’u cyflawniadau nhw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau