News Centre

Datblygwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer adeiladu ysgol

Postiwyd ar : 14 Meh 2022

Datblygwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer adeiladu ysgol
Bydd y datblygwyr, Andrew Scott Ltd, yn bwrw ymlaen gyda datblygiad Ysgol yr 21ain Ganrif ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon.
 
Ar safle gwag Ysgol Uwchradd Cwmcarn, bydd datblygiad ysgol o’r radd flaenaf yn cael ei adeiladu ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon ym mis Medi 2023.
 
Bydd Andrew Scott Ltd yn torri tir newydd yn y misoedd nesaf i greu cyfleuster modern ar gyfer hyd at 420 o ddisgyblion. Bydd y safle yn cynnwys mannau addysgu modern a llawn golau, gwell mynediad i gerbydau a cherddwyr a mannau dysgu a chwarae awyr agored helaeth ar gyfer yr ysgol a'r gymuned ehangach.
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae gennym ni hanes profedig o godi safonau ein hysgolion ni a gwella ansawdd yr amgylchedd dysgu i greu ysgolion addas i'r diben ar gyfer yr 21ain ganrif i bob plentyn. Mae’r datblygiad hwn yn gam arall ymlaen yn y daith honno drwy ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ni ar gyfer teuluoedd Cwm Gwyddon a chynyddu ein darpariaeth ni ar gyfer gofal plant ac ardaloedd i blant ag anghenion ychwanegol ar y safle i gyfoethogi’r gwasanaethau addysgol sy'n cael eu cynnig i blant a’u teuluoedd.” 
 
Meddai pennaeth dros dro yr ysgol, Helen Marsh, “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni fel cymuned ysgol; mae pawb wedi bod yn rhan o’r broses hyd yn hyn ac rydyn ni'n wirioneddol frwdfrydig i barhau i chwarae rhan hanfodol yn y datblygiad. Rydyn ni'n tyfu’n gyflym fel ysgol ac rydw i’n siŵr y gallwn ni barhau i gynnal y safon addysg ragorol rydyn ni wedi’i sefydlu yn y gofod newydd a pharhau i dyfu a ffynnu.”
 
Dywedodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr, Andrew Scott Ltd “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y contract i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac edrychwn ymlaen at weithio gydag awdurdod a theulu Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol yng nghanol y gymuned. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol o ganlyniad i’r prosiect hwn drwy gyfres o fentrau cyflogaeth, hyfforddiant a chymunedol cynaliadwy sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
 
 Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn brosiect ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol Cymru. Mae’n rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol gyda’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghymru.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ysgolion yr 21ain Ganrif


Ymholiadau'r Cyfryngau