News Centre

Gweminar Gweithdy Diogelwch Digwyddiadau Gwent am ddim yn cael ei gynnig i drigolion

Postiwyd ar : 20 Meh 2022

Gweminar Gweithdy Diogelwch Digwyddiadau Gwent am ddim yn cael ei gynnig i drigolion
Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol i sicrhau bod digwyddiad yn ddiogel ac yn ddifyr.

Mae gweminar am ddim yn cael ei gynnig i drefnwyr digwyddiadau lleol ar 23 Mehefin am 6pm i helpu i hogi eich sgiliau trefnu digwyddiadau, dysgu am eich cyfrifoldebau cyfreithiol ac i ofyn am gyngor gan eich Timau Diogelwch Digwyddiadau yng Ngwent.

Byddwch chi'n gallu clywed gan drefnwyr digwyddiadau eu hunain, am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau cynnal digwyddiad.

Bydd y gweithdy yn trafod meysydd fel:
 
  • Diogelwch Digwyddiadau
  • Profiad Trefnwyr Digwyddiadau o gynnal digwyddiadau
  • Dyletswydd Amddiffyn, terfysgaeth a lleoedd gorlawn
  • Trwyddedu, diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch
  • Priffyrdd a chau ffyrdd
  • Caniatâd tir a digwyddiadau trawsffiniol
Mawr neu fach, mae diogelwch yn hanfodol yn eich digwyddiad felly cadwch eich lle yn: https://outlook.office365.com/owa/calendar/MCCGwentEventSafetyWorkshop@onewales.onmicrosoft.com/bookings/


Ymholiadau'r Cyfryngau