News Centre

I ffwrdd â nhw! Cyfle unwaith mewn oes i fynd â cherflun Snoopy eich hun adref gyda chi

Postiwyd ar : 19 Meh 2022

I ffwrdd â nhw! Cyfle unwaith mewn oes i fynd â cherflun Snoopy eich hun adref gyda chi

Arwerthiant Cerfluniau 'A Dog’s Trail'. Dydd Mawrth 21 Mehefin, 6pm–10.30pm gyda Charles Hanson.

Oedd gennych chi eich hoff gerflun SNOOPY chi ar y llwybr?

Arwerthiant cerfluniau A Dog’s Trail ar 21 Mehefin yw eich cyfle i gael un i chi'ch hun! 

Yr arwerthiant yw’r digwyddiad olaf ar gyfer llwybr celf ‘A Dog’s Trail with Snoopy’ lle bydd y cerfluniau’n cael eu gwerthu mewn arwerthiant er mwyn codi arian i Dogs Trust, fel y gallwn ni barhau i gyflawni gwaith hanfodol i ddod o hyd i gartrefi am byth i’r cŵn sydd eu hangen fwyaf.

Bydd pob un o'r 38 o eitemau'n mynd o dan y morthwyl mewn digwyddiad gwneud cynnig ysblennydd gyda'r bersonoliaeth teledu ac arwerthwr enwog, Charles Hanson.

Bydd hefyd arwerthiant byw ar-lein yn cyd-fynd â’r cynigion ‘yn yr ystafell’ ar y noson, sy’n sicr o adeiladu’r cyffro, y wefr a’r ychydig bach hwnnw o gystadleuaeth iach i fachu un o’r cerfluniau Snoopy gwych hyn. Felly, paratowch… achos bydd hi’n noson na fyddwch chi eisiau ei cholli!

Mae'r tocynnau'n costio £20 y pen ac maen nhw bellach ar gael i'w prynu ar Eventbrite.

Sicrhewch eich lle chi yn yr arwerthiant.

Nid yw'n bosibl cael ad-daliad am y tocynnau ac maen nhw'n amodol ar ffi archebu ar-lein. Bydd holl elw’r digwyddiad yn codi arian i Dogs Trust.

Oherwydd capasiti cyfyngedig yn y lleoliad, gofynnwn ni mai dim ond cynigwyr sydd o ddifrif sy’n prynu tocynnau ar gyfer yr arwerthiant byw gyda’r ddealltwriaeth bod cerfluniau Wild in Art, fel arfer, yn costio rhwng £2,500 a £15,000 mewn arwerthiant. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu codi’r arian mwyaf posibl i Dogs Trust ar y noson. Bydd gan gynigwyr ar-lein ffrwd fideo fyw ar gyfer y digwyddiad ar y noson.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau