News Centre

Ysgol Gynradd Deri yn dathlu statws platinwm

Postiwyd ar : 13 Meh 2022

Ysgol Gynradd Deri yn dathlu statws platinwm
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Deri wedi profi eu rhinweddau gwyrdd ar ôl ennill gwobr eco bwysig.

Mae Ysgol Gynradd Deri wedi ennill gwobr fawreddog y Faner Platinwm ar ôl ennill tair Gwobr y Faner Werdd yn flaenorol, diolch i raglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy’n cael ei rhedeg yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r trydydd tro i'w Gwobr Platinwm gael ei hadnewyddu.

Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr o newid yn eu cymuned, gan eu helpu nhw i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang wrth roi’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, eu hamgylchedd lleol a’r gymuned ehangach, megis lleihau gwastraff a defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a materion sbwriel.

Fel rhan o’u hasesiad Platinwm Eco-Sgolion, dangosodd Ysgol Gynradd Deri sut maen nhw wedi parhau i gefnogi’r plant a’r gymuned leol i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu, defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy a datblygu eu hardaloedd awyr agored nhw i ddenu bywyd gwyllt ymhlith prosiectau eraill.

Dywedodd Mrs Coles, yr athrawes sy’n gyfrifol am yr Eco-bwyllgor, “Mae’r plant wedi gweithio’n galed i gynnal y safon ragorol rydyn ni wedi’i chyflawni dros nifer o flynyddoedd ac mae’r Eco-bwyllgor yn parhau i gadw proffil Eco-ysgolion yn uchel iawn ar agenda'r ysgol.”

Ychwanegodd Swyddog Addysg Cadwch Gymru'n Daclus, “Mae’r Faner Platinwm yn gyflawniad nodedig iawn ac mae’n amlygu brwdfrydedd ac ymrwymiad Ysgol Gynradd Deri tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae ymroddiad yr Eco-bwyllgor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn ysbrydoledig. Hoffwn i longyfarch a diolch i’r holl ddisgyblion a staff a gymerodd ran am eu gwaith caled nhw!”

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Am gyflawniad gwych i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Deri. Llongyfarchiadau ar osod esiampl wych i eraill.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion, ewch i https://accounts.keepwalestidy.cymru/cartref


Ymholiadau'r Cyfryngau