News Centre

Tynnu Ysgol Bro Sannan o'r rhestr o ysgolion y mae angen gwelliant sylweddol arnyn nhw

Postiwyd ar : 16 Mai 2022

Tynnu Ysgol Bro Sannan o'r rhestr o ysgolion y mae angen gwelliant sylweddol arnyn nhw
Mae Ysgol Bro Sannan wedi'i thynnu o'r rhestr o ysgolion yng Nghymru y mae angen “gwelliant sylweddol” arnyn nhw.
 
Mae arolygiad diweddar wedi barnu bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â'r argymhellion yn dilyn yr arolygiad craidd diweddaraf. O ganlyniad, mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi tynnu Ysgol Bro Sannan o'r rhestr o ysgolion y mae angen gwelliant sylweddol arnyn nhw.
 
Mae'r adroddiad arolygu wedi amlygu ymdrechion yr ysgol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu strwythur arweinyddiaeth cadarn, sydd wedi helpu Ysgol Bro Sannan i wneud cynnydd da yn erbyn bron pob un o'u blaenoriaethau yn dilyn yr arolygiad craidd. Mae aildrefnu'r strwythur staffio hefyd wedi helpu sicrhau bod yr ysgol yn gwneud y defnydd gorau o arbenigeddau'r athrawon a chynorthwywyr.
 
Meddai Richard Edmunds, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Caerffili, “Mae'r adroddiad hwn yn newyddion rhagorol ac yn dangos ymdrechion pawb dan sylw. Mae'n galonogol gweld bod yr adroddiad yn cydnabod yr heriau yn sgil y pandemig COVID-19 ac, er gwaethaf y rhain, mae'r staff addysgu wedi dangos cynnydd mawr o hyd wrth helpu'r disgyblion i wella eu sgiliau rhifedd a llythrennedd, yn ogystal â'u sgiliau dysgu annibynnol.
 
“Rydyn ni'n deall bod agweddau ar waith yr ysgol a allai gael eu datblygu o hyd, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w helpu nhw i wella ymhellach.”
 
Ychwanegodd Prif Swyddog Addysg Caerffili, Keri Cole, “Rwy'n falch iawn o ddathlu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn Ysgol Bro Sannan. O dan arweiniad y pennaeth a'r Corff Llywodraethu, mae'r ysgol wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau gwelliant cyflym, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y dysgwyr a'u teuluoedd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau