Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae Dawns ar gyfer Parkinson's yn chwilio am bobl newydd i ymuno yn y sesiynau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth ynghylch Clefyd Parkinson ac, ar hyn o bryd, mae Dawns ar gyfer Clefyd Parkinson yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’u sesiynau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi lansio dau grant newydd, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i grwpiau cymunedol wneud cais amdanyn nhw.
Fe wnaeth grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili elwa ar grantiau gwerth £16,660 rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022.
Bydd disgyblion ysgolion cynradd a grwpiau gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn plannu 5,000 o goed rhwng 7 ac 11 Mawrth i ddathlu Wythnos Plannu Coed ac i geisio mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cyhoeddi menter newydd a fydd yn gyfle i drigolion ennill £500 tuag at eu biliau ynni yn gyfnewid am roi eu cadi gwastraff bwyd allan i'w gasglu bob wythnos.