Dywedwch Wrthym Unwaith

Tell us once

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch chi eisiau eu gwneud nhw o gwbl, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a'r gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod.

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth lle gallwn ni eich helpu chi i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw wedyn yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth eraill a gwasanaethau llywodraeth leol.

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth.

Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith mewn un o dair ffordd:

  • Wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru – Mae angen i chi gofrestru'r farwolaeth cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn cael ei gynnig i chi yn ystod yr un apwyntiad. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni.
  • Ar-lein yn Dywedwch Wrthym Unwaith – Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein. Pan fyddwch chi wedi cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith unigryw i chi, a bydd angen hynny arnoch chi i fewngofnodi.
  • Dros y ffôn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau – Gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar unrhyw adeg ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi'r rhif ffôn i chi ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth. Os oes angen, bydd cynghorydd a chyfieithydd ar y pryd yn eich ffonio chi'n ôl ac yn eich helpu chi. Os ydych chi'n ffonio o Gymru, byddwch chi'n cael parhau â'r alwad yn Gymraeg.

Pwy all gael ei hysbysu drwy'r gwasanaeth hwn?

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn helpu teuluoedd sy'n galaru i hysbysu'r sefydliadau ac adrannau llywodraeth canlynol pan fydd rhywun yn marw:

Gwasanaethau'r Cyngor

  • Treth y Cyngor
  • Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion
  • Bathodynnau glas (bathodynnau car i bobl anabl)
  • Gwasanaethau cymdeithasol i blant
  • Y gofrestr etholwyr
  • Budd-dal tai a gostyngiad treth y Cyngor
  • Casglu taliadau ar gyfer gwasanaethau'r cyngor
  • Tai cyngor
  • Llyfrgelloedd a hamdden
  • Cerdyn Teithio Rhatach

Adran Gwaith a Phensiynau

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • Tîm Gofal Iechyd Tramor

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Trethu personol

Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi

  • Pasbort

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

  • Trwydded yrru
  • Dogfen gofrestru/perchnogaeth cerbyd

Os y byddwch chi'n defnyddio'r gwasanaeth wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru, efallai gall y cofrestrydd eich helpu chi i ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sefydliadau a allai fod o gymorth i chi, ac os oes angen, cysylltu ag adrannau eraill y Cyngor sydd heb eu rhestru uchod.

Gwybodaeth y byddwch chi ei hangen

Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi i unrhyw sefydliad y byddwn ni'n cysylltu â nhw ar eich rhan chi, ac er mwyn i chi gael y mwyaf allan o'r gwasanaeth, byddai'n ddefnyddiol os oes gennych chi’r wybodaeth ganlynol ynghylch yr ymadawedig wrth law:

  • Rhif Yswiriant Cenedlaethol yr ymadawedig (ac unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil presennol sy'n fyw)
  • Dyddiad geni
  • Tref/gwlad enedigol
  • Manylion unrhyw wasanaethau/budd-daliadau roedd yn eu cael
  • Trwydded yrru neu rif trwydded yrru
  • Rhif cofrestru cerbyd unrhyw gerbyd sydd wedi’u cofrestru yn enw’r ymadawedig
  • Pasbort neu rif pasbort
  • Bathodyn glas

Gallech chi gael eich holi am fanylion:

  • Perthynas agosaf
  • Gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n fyw
  • Y person sy'n delio gyda'r ystad

Noder: Rhaid cael caniatâd y bobl sydd wedi'u rhestru uchod os ydych chi'n mynd i roi gwybodaeth amdanyn nhw i ni.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth, cysylltwch â'r swyddfa gofrestru.

Cysylltwch â ni