Mabwysiadu

Mae'r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghaerffili yn cael ei redeg gan Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru (‘y Gwasanaeth’) fel consortiwm gyda Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. 

Y Gwasanaeth yw'r llwybr mabwysiadu swyddogol ar gyfer Cynghorau Sir Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Daw'r Gwasanaeth o dan ymbarél y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (Cymru). 

Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwybodaeth am fabwysiadu; yn helpu darpar fabwysiadwyr i gyflawni eu gobeithion o ddod yn rhieni, yn cefnogi teuluoedd sy'n mabwysiadu yn ein hardal ac yn rhoi cyngor i unrhyw un sydd â chwestiynau ynghylch mabwysiadu. 

Mae gan y Gwasanaeth dîm ymroddedig a chyfeillgar sy'n mynd ati i recriwtio, hyfforddi a chefnogi teuluoedd sy'n mabwysiadu trwy gydol y broses fabwysiadu. Maent yn helpu plant i ddod o hyd i deuluoedd a fydd yn rhoi cartref teuluol diogel a sefydlog iddynt.

Eu nod yw dod o hyd i rieni ar gyfer plant na allant fyw gyda'u perthnasau biolegol ac sydd angen teulu parhaol.  

Mae'r Gwasanaeth yn deall bod pob plentyn yn wahanol felly mae'n cynnig cyrsiau hyfforddi sy'n gweddu'n berffaith i anghenion y rhiant sy'n mabwysiadu a'r plentyn; hyfforddiant ar ôl mabwysiadu a grwpiau cymorth, cyfleoedd i gwrdd â mabwysiadwyr eraill; cyfeirio a chyrchu gwasanaethau perthnasol a chymorth ar ôl mabwysiadu. Mae helaethrwydd yr hyfforddiant a chymorth yn sicrhau paru rhiant/rhieni a phlentyn/plant yn gweithio i bawb dan sylw.

Chwalu'r Mythau  

Mae yna lawer o fythau am fabwysiadu; gofynnir i ni yn rheolaidd, ‘A allaf fabwysiadu…’

…os ydw i'n sengl?

Gallwch, wrth gwrs! Byddwch yn derbyn yr un hyfforddiant ag y mae pob mabwysiadwr arall yn ei dderbyn, gan eich paratoi i fod y rhiant gorau y gallwch fod ar gyfer plentyn. 

...os nad ydyn ni'n briod?

P'un a ydych chi'n briod, yn sengl, mewn perthynas, neu mewn partneriaeth sifil, rydym yn croesawu'ch cais.

…os ydyn ni mewn perthynas un rhyw?

Rydym yn derbyn mabwysiadwyr beth bynnag fo'u hunaniaeth o ran rhywedd neu rywioldeb. Rydym yn cael nifer o fabwysiadwyr sy'n bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Drawsrywiol, Cwiar+! 

…os ydw i'n rhy ifanc?

Rhaid i chi fod dros 21 oed i fabwysiadu plentyn. Rydym yn trin ceisiadau ar gyfer pob oedran yn gyfartal.

…os ydw i'n rhy hen?

Nid oes terfyn oedran uchaf er mwyn mabwysiadu. Byddwn yn ystyried eich gallu i ofalu am blentyn tan fydd yn oedolyn, a'ch iechyd a'ch ffordd o fyw eich hun. Mae gennym lawer o fabwysiadwyr sy'n credu eu bod yn ‘hŷn’ gan eu bod wedi cael gyrfa, wedi teithio neu wedi cael plant biolegol sydd bellach wedi tyfu i fyny, ond sydd dal â'r cariad a'r egni i ddod yn rhieni eto. 

…os oes gen i anabledd/cyflwr meddygol?

Gallwch, wrth gwrs. Byddai'n rhaid i ni ystyried eich gallu i ofalu am blentyn a natur gydol oes mabwysiadu, ond mae gennym lawer o fabwysiadwyr sydd â'u hanghenion meddygol eu hunain ac sy'n dod yn rhieni yn llwyddiannus. Rydym yn trin pob cais yn unigol felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch neu e-bostiwch ni. 

…os oes anifeiliaid anwes gen i?

Mae anifeiliaid anwes yn rhan o'r teulu hefyd. Rydym yn croesawu pobl ag anifeiliaid anwes sy'n gyfeillgar i deuluoedd ac yn ystyried eich amgylchiadau teuluol presennol wrth eich paru â'ch darpar blentyn/blant.

…os nad ydw i mewn cyflogaeth?

Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr gael eu cyflogi, fodd bynnag, byddwn am gadarnhau eich bod mewn sefyllfa ariannol ddiogel. Mae hyn yn golygu nad oes gennych ddyledion sylweddol na ellir eu rheoli neu dan fygythiad o golli eich cartref. Bydd angen i chi allu dangos tystiolaeth y gallwch gynnal eich hun a'ch plentyn/plant.

…os oes gen i blentyn/blant biolegol? 

Rydym yn croesawu mabwysiadwyr â phlant biolegol, hen neu ifanc. Bydd angen bwlch oedran o 2 flynedd o leiaf rhwng eich plentyn ieuengaf a'r plentyn rydych chi'n gobeithio ei fabwysiadu. Byddwn yn ystyried anghenion eich plant biolegol wrth feddwl am sut i'ch helpu i dyfu'ch teulu trwy fabwysiadu. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch.

...os ydw i'n ysmygwr?  

Rhaid i chi fod o leiaf 12 mis heb ysmygu cyn gwneud cais am fabwysiadu; mae hyn yn cynnwys pob math o ysmygu h.y. sigaréts, e-sigaréts neu ‘vapes’. Gallwch wirio hyn gyda'ch Meddyg Teulu, neu ein ffonio ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

…os oes gen i gofnod troseddol?

Bydd pawb yn eich teulu sydd dros 18 oed yn destun ‘gwiriad heddlu’. Ni fydd y mwyafrif o rybuddiadau neu euogfarnau blaenorol yn eich rhwystro rhag mabwysiadu ond mae'n bwysig eich bod yn agored ac yn onest â ni am unrhyw droseddau yn y gorffennol cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ystyried natur y drosedd a pha mor hir yn ôl y digwyddodd. Y ffactorau pwysig fydd eich gweithredoedd a'ch ymddygiad ers yr euogfarn ac a allwch ddangos nad ydych wedi/na fyddwch yn ailadrodd yr euogfarn. Dim ond rhai euogfarnau a fydd yn eich atal rhag mabwysiadu, fel troseddau yn erbyn plentyn neu euogfarnau difrifol iawn fel llofruddiaeth neu dreisio. Mae'n bwysig trafod eich amgylchiadau â ni yn gynnar.

...os ydw i'n cael triniaeth ffrwythlondeb?

Er mwyn cael eich ystyried i fod yn fabwysiadwr, bydd angen i chi fod wedi cwblhau unrhyw ymchwiliadau neu driniaeth ffrwythlondeb a gwneud penderfyniad pendant nad yw hwn bellach yn ddewis i chi. Yn aml gall triniaeth ffrwythlondeb fod yn flinedig ac yn ofidus; mae hwn yn ganlyniad anodd i lawer o bobl ac mae'r amser i ddelio â'r penderfyniad yn amrywio i'r unigolyn. Rydym fel arfer yn argymell aros o leiaf chwe mis ar ôl eich triniaeth derfynol cyn i chi ystyried mabwysiadu.

…os nad ydw i'n berchen ar fy nghartref fy hun?

Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun ac mae gennym lawer o fabwysiadwyr sy'n rhentu eu cartrefi. Wrth gychwyn ar y daith mabwysiadu, mae angen i chi sicrhau bod eich tenantiaeth yn sefydlog ac yn ddiogel.  

…os nad ydw i'n byw yn eich ardal chi?

Er ein bod yn ymwneud yn bennaf â Chasnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy rydym wedi asesu mabwysiadwyr o'r tu allan i'r ardaloedd hyn ac yn croesawu eu ceisiadau. Rydym yn trin pob cais yn unigol felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch neu e-bostiwch ni, mae ein manylion cyswllt i'w gweld yn yr adran ‘cysylltu â ni’.

Digwyddiadau gwybodaeth

Mae'r Gwasanaeth yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn rheolaidd ar gyfer pobl sydd eisiau darganfod mwy am fabwysiadu. Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n meddwl am fabwysiadu, p'un a ydych chi'n dal i fod yn y cyfnod cynnar o feddwl amdano neu wedi gwneud penderfyniad pendant fod mabwysiadu yn iawn i chi, i ddod. Bydd yna gyflwyniad byr ac yna'r cyfle, os ydych chi eisiau, i siarad ag aelod o staff hyfforddedig un i un am eich amgylchiadau unigol. Os hoffech chi ddod i ddigwyddiad, e-bostiwch neu ffoniwch i gadarnhau eich lle a byddwch yn cael gwybod amseroedd y digwyddiad.

Ein digwyddiadau gwybodaeth ar gyfer 2020 yw:

  • Dydd Mawrth 14 Ionawr
  • Dydd Sadwrn 7 Mawrth
  • Dydd Mercher 6 Mai 
  • Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 
  • Dydd Iau 10 Medi
  • Dydd Sadwrn 7 Tachwedd

Manylion cyswllt

Bydd aelod o'r tîm cyfeillgar ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac i drafod y camau nesaf.

*Sylwch fod Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn cynnwys Cynghorau Sir Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ond yn cael ei gynnal gan Awdurdod Lleol Blaenau Gwent. Mae hyn yn golygu y bydd pob ymholiad yn dod trwy weinyddion e-bost Blaenau Gwent a bydd yn cynnwys “@blaenau-gwent”.

Rhif ffôn: (01495) 355766 

E-bost: adoption@blaenau-gwent.gov.uk (Gweler y nodyn uchod)

Wefan: https://southeastwalesadoption.co.uk/?lang=cy

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru
Adain y Gogledd
2il Lawr, Bloc B
Tŷ Mamhilad
Ystâd Parc Mamhilad
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 0HZ   

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm; os byddwch yn gadael neges y tu allan i'r oriau hyn neu ar ŵyl y banc, byddant yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallant unwaith y byddant wedi dychwelyd i'r swyddfa.