Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol

Ein Tîm Cyswllt a Chyfeirio yw eich “drws ffrynt” i wasanaethau o’n cyfadran gwasanaethau plant. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gysylltu â ni yn ogystal â sefydliadau ac asiantaethau partner.

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, byddwn yn eich helpu chi i asesu os yw eich cais am wasanaeth neu gymorth yn rhywbeth y gall gwasanaethau cymdeithasol ddelio ag ef. Os gallwn, yna fe fyddwn ni’n rhoi gwybodaeth i chi am sut y gallwn helpu a beth yw’r camau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn.

Efallai gallwn ni ddatrys y mater yn syth, neu gallwn ni eich cyfeirio at y tîm priodol, neu gallwn ni drefnu i chi dderbyn ein gwasanaethau ar ddyddiad ac amser y byddwn yn cytuno arno. Os yw’n fwy addas, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaeth/darparwr gwasanaeth arall, a fydd wedi ei gymeradwyo.

Os yw’r sefyllfa yn fwy cymhleth, gallwn drefnu i chi ymweld â ni yn ein swyddfeydd i drafod eich pryderon.

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gallwn ni roi help ar ei gyfer:

  • gall person ifanc fod mewn perygl o fod yn ddigartref
  • efallai fod gennych chi bryderon am blentyn
  • efallai fod rhieni yn ei chael hi’n anodd rheoli ymddygiad plentyn
  • os oes gan blentyn anabledd neu angen arbennig

Pan fo angen, ein nod yw cynnal asesiad o anghenion plentyn yn ei gartref ei hun. Bydd y Tîm Cyswllt a Chyfeirio yn cyfeirio’r mater i un o’n timau asesu arbenigol sydd ar gael ar draws y fwrdeistref sirol yn ardal y gogledd, y de a’r dwyrain.

Beth i’w wneud os ydych yn poeni am blentyn

Os nad ydych yn sicr bod plentyn yn dioddef, ond rydych yn poeni amdano, neu os ydych yn yn poeni bod plentyn wedi dioddef niwed, wedi’i gam-drin neu wedi’i esgeuluso, dywedwch wrthym yn syth.

Mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol, cysylltwch â’n Tîm Dyletswydd Brys neu ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Cysylltwch â ni