Rhoi gwybod am fater sy’n ymwneud â safonau masnach
Os ydych chi’n credu bod busnes neu fasnachwr yn torri safonau masnach, rhowch wybod inni a byddwn yn ymchwilio ymhellach.
Er enghraifft, os ydych:-
- wedi gweld rhywun yn gwerthu tybaco, alcohol, tân gwyllt, paent chwistrell neu gyllyll i blant
- wedi cael gwybod bod rhywun hen neu agored i niwed wedi cael ei roi dan bwysau i brynu nwyddau neu wasanaethau nad oedd eu heisiau
- yn gwybod am rywun yn smygu mewn man cyhoeddus caeedig
- yn gwybod ble mae nwyddau ffug yn cael eu gwerthu
- wedi cael eich camarwain gan labeli neu arddangosiadau prisiau gwael
- wedi gorfod talu mwy na’r pris a nodir
- wedi prynu nwyddau neu deganau a allai fod yn beryglus
- wedi prynu car â chofnod milltiroedd ffug
- wedi prynu nwyddau pwysau neu fesur byr
- wedi prynu bwyd neu ddiod sydd wedi’i gam-ddisgrifio ar label neu fwydlen
- wedi prynu bwyd sydd heibio ei ddyddiad, nad yw o ansawdd boddhaol neu nad yw’n bodloni’r safonau cyfansoddiadol gofynnol?
Rhoi gwybod am fater sy’n ymwneud â safonau masnach >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Os ydych angen trafod y mater gydag un o’r swyddogion safonau masnach, cysylltwch â’r gwasanaeth safonau masnach.