Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
Mae'r rhaglen frechu yn cael ei threfnu a'i chyflawni gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Felly, peidiwch â chysylltu â'n switsfwrdd oherwydd ni allwn helpu gyda chwestiynau am apwyntiadau neu unrhyw ymholiadau eraill ynghylch y ganolfan frechu. Cysylltir â thrigolion cymwys a'u gwahodd i apwyntiad maes o law ac fe'u hanogir i beidio â chysylltu â'u meddyg teulu, y Bwrdd Iechyd na'r Cyngor oherwydd y pwysau ar wasanaethau ar hyn o bryd.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.