Sgamiau treth y cyngor

Rhybudd - sgamiau bandio treth y cyngor

Mae'r cyngor weithiau yn derbyn adroddiadau gan drigolion a oedd wedi derbyn galwad ffôn neu ymweliad annisgwyl gan unigolyn neu gwmni sy'n awgrymu y gallai'r band treth cyngor ar eu cartref gael ei leihau yn gyfnewid am dalu ffi ar y pryd a thâl o ganran benodedig o unrhyw ostyngiad a gyflawnwyd gan y galwr. Honnir yn aml y gallai'r gostyngiad gael ei ôl-ddyddio i 1993 ond mae hyn yn anghywir; mae rheoliadau treth y cyngor ond yn caniatáu gostyngiad i gael ei ôl-ddyddio hyd at uchafswm o chwe mlynedd, ond weithiau bydd y cyfnod hwn yn fyrrach.  Cofiwch, os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.

Y ffeithiau cywir am fandin treth y cyngor

Mae eich cartref yn cael ei roi mewn band gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio  (VOA) yr ydym yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o dreth gyngor y dylech ei dalu.  Os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â band treth y cyngor o’ch eiddo, wedyn bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn hapus i’ch cynorthwyo.

Gallwch wneud ymholiad am eich band treth y cyngor drwy gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ; does dim tâl, mae am ddim.

Rhif Ffôn (Cymru): 03000 505 505

E-bost: ctwales@voa.gsi.gov.uk

Os ydych yn teimlo fod band eich cartref yn anghywir, wedyn y cyfan sydd angen i chi wneud yw cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac esbonio pam rydych yn meddwl ei fod yn anghywir. Byddent hefyd yn gofyn i chi gadarnhau fod y manylion sydd ganddynt amdanoch a’ch cartref yn gywir.  Byddent yn gwrando ar eich barn ac os ydynt yn cytuno fod y band yn anghywir, byddent yn ei newid. Gall bandiau weithiau fynd i fyny yn ogystal â gostwng..

Dyma rhai tactegau y gellir ei ddefnyddio gan dwyllwyr posib:

  • codi tâl am dâl ar y pryd ac wedyn peidio â herio eich band ar eich rhan, a beio Asiantaeth y Swyddfa Brisio am beidio gweithredu
  • yn mynnu bod eich eiddo yn sicr yn y band anghywir pan mewn gwirionedd mae eich band yn gywir
  • dweud eu bod o’r cyngor lleol neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio a gofyn am eich manylion banc fel y gallent roi ad-daliad. Dyw’r cyngor byth yn galw gyda phreswylwyr yn annisgwyl yn gofyn am fanylion banc
  • hawlio fod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn codi tâl arnoch i herio eich band pan allwch wneud hyn am ddim
  • hawlio y dylech, yn gyfreithiol, gael eich cynrychioli gan asiant i herio eich band pan i ddweud y gwir gall unrhyw un wneud hyn
  • dweud na fydd yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn lleihau eich band heb help asiant oherwydd bod y llywodraeth yn fyr o arian 

Pethau allech wneud i osgoi bod yn ddioddefwr i sgamiau

  • cofiwch y gallech gael eich band wedi ei wirio yn rhad ac am ddim drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
  • ffoniwch swyddfa galwyr annisgwyl i gadarnhau mai nhw yw pwy maent yn dweud ydynt
  • hysbysu’r heddlu os ydych yn credu fod rhywun yn dynwared staff o’ch cyngor lleol neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • ffoniwch 999 os fydd galwr annisgwyl yn gwrthod gadael  eich cartref
  • i adrodd am fater i dîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ffoniwch 01495 235 291 neu ewch i www.caerffili.gov.uk/safonaumasnach  

Pethau na ddylech eu gwneud

  • Peidiwch â rhoi eich manylion banc i unrhyw un sy’n cysylltu â chi dros y ffôn neu sy’n galw mewn person
  • peidiwch â gadael neb i mewn i’ch cartref heb weld adnabyddiaeth addas
  • peidiwch a theimlo o dan bwysau gan alwr annisgwyl i dalu tâl yn syth. Cymerwch yr amser sydd angen arnoch i feddwl am y peth.  Beth yw'r brys?
  • peidiwch a derbyn hawliau galwyr annisgwyl am eich band heb weld tystiolaeth neu brawf o beth maent yn hawlio. Does dim byd yn bod gyda bod yn amheugar
  • peidiwch â siarad ag unrhyw un sy’n anfodlon rhoi cyfeiriad eu cwmni neu fanylion cyswllt