Eiddo gwag ac ail gartrefi 

Eiddo gwag 

Os yw eich eiddo yn wag, a heb ei ddodrefnu, bydd wedi’i eithrio am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad lle’r oedd heb i ddodrefnu. Gallai hyn fod cyn i chi gymryd yr eiddo drosodd, a fyddai'n golygu y byddech ond yn cael y rhan hynny o'r cyfnod eithrio 6 mis sy'n berthnasol i chi.

 Ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben, bydd eich eiddo yn rhan o’r dosbarth anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae hyn yn rhoi disgresiwn i'r Cyngor i benderfynu p'un ai i ganiatáu gostyngiad neu beidio. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi penderfynu na roddir gostyngiad mewn perthynas â’r dosbarth eiddo hwn ac felly bydd y gost lawn yn daladwy.  

Ail gartrefi

Nid oes gostyngiad i eiddo gwag sydd wedi’i ddodrefnu neu ail gartrefi onid yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n llain â charafán arni neu’n angorfa â chwch ynddi;
  • mae’r person cyfrifol hefyd yn berson cyfrifol i eiddo arall sy’n ymwneud â’i swydd, e.e. tafarnwr;
  • pan fo’r person cyfrifol yn aelod o’r lluoedd arfog a bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu tŷ arall ar ei gyfer;
  • mae’r person cyfrifol wedi marw a naill ai nad yw profiant wedi’i ddyfarnu neu fod llai na 12 mis ers dyfarnu’r grant.