Sbardun Cymunedol

Cyflwynwyd y Sbardun Cymunedol gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Ei bwrpas yw rhoi cyfle i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'r camau a gymerwyd gan asiantaethau pan fyddant yn teimlo na fu'r camau hyn yn ddigonol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Beth yw'r trothwy ar gyfer cynnal adolygiad?

Rhaid bod dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi rhoi gwybod i'r awdurdod lleol, yr Heddlu neu landlord cymdeithasol cofrestredig am o leiaf dri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar wahân yn ystod y chwe mis diwethaf. Rhaid bod dioddefwyr troseddau casineb wedi gwneud un gŵyn yn ystod y chwe mis diwethaf.

Er mwyn i'r Sbardun Cymunedol gael ei weithredu, rhaid i asiantaethau gael gwybod am y digwyddiadau o fewn mis i'r digwyddiad ddigwydd er mwyn caniatáu ymateb amserol, digonol. Rhaid i'r cais am weithredu'r Sbardun Cymunedol gael ei wneud o fewn chwe mis i'r digwyddiad yr adroddir amdano.

Sut y gellir gweithredu'r Sbardun Cymunedol?

Os ydych yn credu bod eich cwyn yn bodloni meini prawf y Sbardun Cymunedol, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. 

Gallwch ofyn am ffurflen gais gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach drwy ffonio 01443 811307, anfon e-bost at CaerffiliSaffach@caerffili.gov.uk neu ysgrifennu at:

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Nifer y ceisiadau am y Sbardun Cymunedol a gafwyd hyd yma

  • 2014/15 – 0 
  • 2015/16 – 1 
  • 2016/17 – 0 
  • 2017/18 – 0 
  • 2018/19 – 2 
  • 2019/20 – 2 
  • 2020/21 - 2
  • 2021/22 - 1
  • 2022/23 - 1
Cysylltwch â ni