Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Argyfyngau ac atal troseddu    Cau oherwydd yr eira a tharfu ar wasanaethau

Cau oherwydd yr eira a tharfu ar wasanaethau

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru am hysbysiadau e-bost i gael gwybod am gau oherwydd Eira ac am amhariadau ar wasanaethau. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Os ceir tywydd garw, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y wefan hon yn cael ei diweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau’r Cyngor a’r ffyrdd a’r cyfleusterau sydd ar gau.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook.

Y Trydar diweddaraf ar yr eira

Tweets about #CBSCEIRA18 AND from:@CaerphillyCBC

Sbwriel ac ailgylchu

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i’n tudalen Facebook.

Priffyrdd (graeanu)

Yn ystod tymor y gaeaf byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y ffyrdd a’r palmentydd ar hyd a lled bwrdeistref sirol Caerffili yn cael eu cadw’n ddiogel rhag iâ ac eira. Rydym fel awdurdod yn gyfrifol am 1150 cilomedr (718 milltir) o ffyrdd ac er ein bod yn ymdrechu i drin y rhwydwaith cyfan, rydym wedi gorfod rhoi blaenoriaeth i raeanu 485 cilomedr (301 milltir) o’r prif ffyrdd. Os oes gennym ddigon o adnoddau, rydym yn trin pob ffordd dosbarth ‘A’ a ‘B’ a rhai o’r ffyrdd eraill prysuraf.

Ewch i’n hadran ar raeanu a chlirio eira i weld popeth y mae angen i chi ei wybod am raeanu, biniau graean a sut yr ydym yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel dros y gaeaf.

Ysgolion

Cliciwch yma i weld rhestr o’r ysgolion a’i statws presennol

Gwybodaeth am draffig

Bydd bwletinau radio a theledu lleol yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw broblemau traffig neu ffyrdd sydd ar gau.

  • Traffig Cymru
  • AA Roadwatch

Gwasanaethau cymdeithasol

Bydd yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i ddarparu gwasanaethau arferol i’r sawl sy’n cael gwasanaethau gofal cymdeithasol, cyn belled â bod yr amodau’n caniatáu hynny. Os bydd yr amodau’n amharu ar wasanaethau, cysylltir â’r bobl yr effeithir arnynt. Cysylltwch â’n Tîm Dyletswydd a Gwybodaeth Gwasanaethau Oedolion ar 0808 1002500 i gael rhagor o gyngor.

Bydd yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn darparu gwasanaethau arferol cyn belled â bod yr amodau’n caniatáu hynny. Os bydd yr amodau’n amharu ar wasanaethau, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt a Chyfeirio ar 0808 1001727 i gael rhagor o gyngor.

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol. Gellir cysylltu â’r tîm argyfwng ar 0800 3284432. Mae’r tîm ar gael rhwng 5pm a 8.30am o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 4.30pm ddydd Gwener a 8.30am fore dydd Llun. Mae’r gwasanaeth hwn yn ymdrin â sefyllfaoedd brys yn unig na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Pryd ar Glud

Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud Caerffili yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich pryd bwyd yn eich cyrraedd. Fodd bynnag, weithiau gall argyfyngau o ran y tywydd a damweiniau ein hatal rhag gwneud hynny. Ni chaiff y gwasanaeth Pryd ar Glud ei ddarparu ar ddiwrnodau pan fydd tywydd eithafol yn golygu bod y ffyrdd yn beryglus i’n gyrwyr.

Wrth baratoi ar gyfer tywydd gaeafol, mae cleientiaid y gwasanaeth Pryd ar Glud yn cael cyfle yn ystod mis Rhagfyr i brynu dau bryd bwyd wedi’u rhewi ar gyfer argyfwng. Gellir cadw’r prydau hyn yn y rhewgell am 3 mis a’u defnyddio pan na fydd modd i ni ddarparu’r gwasanaeth arferol. Gofynnwch i’ch gyrrwr Pryd ar Glud am ragor o wybodaeth.

Gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol

Rydym yn cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn darparu cymorth mewn argyfwng. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth hwn drwy ffonio 01443 875500. Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 5pm a 8.30am o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 4.30pm ddydd Gwener a 8.30am fore dydd Llun. Mae’r gwasanaeth hwn yn ymdrin â sefyllfaoedd brys yn unig na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf. 

Bydd tywydd gwael yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ffonio’r rhif hwn, felly byddwch yn amyneddgar ac fe wnawn ni ateb eich galwad cyn gynted ag sy’n bosibl. Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar ein gwefan i ofyn am wasanaeth neu roi gwybod am broblem.

Trafnidiaeth gyhoeddus

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau bws yn ystod tywydd garw, cysylltwch â Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu ewch i’r wefan ar www.traveline-cymru.info.

Gallwch hefyd gysylltu â chwmnïau bysiau’n uniongyrchol – mae’r manylion llawn ar wefannau’r cwmnïau bysiau.

I gael manylion am wasanaethau trên, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50 neu ewch i www.nationalrail.co.uk.

Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch hon

Tudalennau Cysylltiedig

Bod yn barod ar gyfer y gaeaf

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl