Plâu 

Gofyn am driniaeth i reoli pla

Os oes gennych broblemau gyda llygod mawr, rhowch wybod  gan ddefnyddio'r ffurflen isod.

Adroddwch am broblem gyda llygod mawr

I ofyn am ymweliad ynglŷn â chwilod duon, llygod, gwenyn, chwain neu lau gwely, Cysylltwch â ni.

Os oes tâl am y driniaeth, bydd angen i chi dalu amdani wrth wneud cais am yr ymweliad. Gallwch chi dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd dros y ffôn.

Gwybodaeth am Fwydo Adar

Bwydo Adar a Rheoli Plâu

Mae Tîm Rheoli Plâu y Cyngor yn trin llygod a llygod mawr yn y Fwrdeistref Sirol, ond mae'r niferoedd yn cynyddu wrth fwydo adar.

Mae bwyd adar yn darparu bwyd egni uchel ar gyfer llygod mawr yn rheolaidd mewn lleoliad sefydlog. Mae adar yn creu llanast wrth fwyta, a gall ychydig bach o fwyd sy'n cael ei bigo o borthwr fod yn ddigon i gynnal poblogaeth o lygod mawr. Gallai'r rhain fridio drwy gydol y flwyddyn ac efallai y bydd eu rhai bach yn symud i'r ardal gyfagos i ddechrau cytrefi newydd.

Bydd gardd yn aml yn darparu bwyd, dŵr a lloches ar gyfer llygod mawr. Bydd unrhyw ymgais i ddileu plâu ac atal rhagor o broblemau yn debygol o fethu os na fydd camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Bwydo adar heb broblemau

Nid yw'r Tîm Rheoli Plâu am i adar golli allan ar hadau, cnau a thameidiau blasus eraill, yn enwedig yn ystod y gaeaf, ond byddai'n gofyn i chi helpu gwneud y bwyd yn llai hygyrch i rywogaethau eraill.

Arferion da

Os ydych chi'n bwydo adar yn eich gardd, dilynwch y canllawiau hyn i helpu atal cnofilod:

  • Peidiwch â gwasgaru bwyd ar y ddaear lle mae'n ffynhonnell fwyd hawdd ar gyfer cnofilod ac adar niwsans. Pan fydd bwyd ar y ddaear, nid oes modd rheoli pa adar neu anifeiliaid sy'n ei fwyta.
  • Mae byrddau adar yn aml yn hygyrch iawn i gnofilod. Peidiwch â'u gorlenwi nhw na rhoi llawer o fwyd neu fwydydd anaddas.
  • Defnyddiwch fwrdd adar gyda tho i geisio atal adar niwsans mawr rhag cyrraedd y bwyd.
  • Defnyddiwch borthwyr adar gyda hambwrdd dal hadau neu borthwyr gwrth-blâu i leihau faint o falurion sy'n cwympo i'r ddaear.
  • Yn ddelfrydol, rhowch ychydig bach o fwyd yn y porthwr i sicrhau ei fod yn cael ei wagio bob dydd.
  • Peidiwch byth â rhoi bwyd allan yn y nos, oherwydd bydd yn ffynhonnell fwyd hawdd ar gyfer cnofilod.

Drwy ddilyn y canllawiau uchod, byddwch chi'n annog adar gardd bychain i ddod i'ch gardd, ond yn atal cnofilod.

Beth sy’n rhaid i mi ei dalu?

Prisiau o 1 Ebrill 2023:

  • Gwenyn meirch £38.22 a TAW fesul triniaeth (Nodwch nad ydym yn symud nythod gwag gwenyn meirch )
  • Chwain £38.22 a TAW fesul triniaeth
  • Llygod £54.60 a TAW fesul triniaeth
  • Llygod mawr, chwilod duon a llau gwely – am ddim ar gyfer eiddo domestig.
  • Eiddo masnachol £43.68 yr awr yn ogystal â deunyddiau

I gael manylion taliadau gwasanaethau rheoli plâu eraill cysylltwch â ni.

Os bydd angen talu am y driniaeth, bydd angen i chi dalu wrth wneud cais am yr ymweliad.

Y plâu nad ydym yn eu trin

Nid ydym yn cynnig triniaeth ar gyfer pob math o blâu, er enghraifft plâu gardd cyffredin (yn cynnwys morgrug, pryfed clustiau a phryfed lludw) a chwilod carped/ffwr. Fodd bynnag, rydym yn cynnig cyngor am ddim i’n preswylwyr ar fathau cyffredin o blâu, yn cynnwys morgrug, llygod, chwain, pryfed, chwilod a psosidiaid.