Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i gadael

Rydym ni’n gyfrifol am archwilio a symud cerbydau sy’n cael eu gadael ar dir cyhoeddus ac ar ffyrdd cyhoeddus.

Pan fydd cerbydau wedi’u gadael ar dir preifat, perchennog y tir hwnnw sy’n gyfrifol am y cerbydau. Fodd bynnag, os ydynt yn achosi niwsans, gallwn gyflwyno gorchymyn i’w symud.

Beth yw cerbyd wedi’i gadael?

Mae cerbyd gadawedig yn gerbyd sy’n ymddangos nad yw mewn defnydd rheolaidd, ac mae wedi bod yn yr un lle am gyfnod o amser (cyfnod o 2 wythnos neu fwy fel arfer).

Nid yw’r ffaith bod cerbyd mewn cyflwr gwael neu os nad yw wedi’i drethu o reidrwydd yn golygu ei fod wedi’i adael, ac felly weithiau bydd angen gwneud ymholiadau ychwanegol er mwyn sefydlu a yw’r cerbyd wedi’i adael ai peidio cyn y gallwn ei symud.

Os yw cerbyd ar dir preifat, mae’n rhaid i ni gyflwyno hysbysiad 15 diwrnod i’r tirfeddiannwr i ddechrau. Ar ôl y 15 diwrnod, bydd y cerbyd yn cael ei drin fel cerbyd sydd ar y briffordd.

Os bydd cerbyd yn achosi rhwystr ar y briffordd, neu os credir ei fod wedi’i ddwyn neu’n gysylltiedig â throsedd, rhowch wybod i Heddlu Gwent ar 01633 838111.

Os na fydd cerbyd wedi’i drethu rhowch wybod i’r DVLA am hyn.

Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i gadael

I roi gwybod am gerbyd gadawedig, mae angen i ni wybod:-

  • lleoliad y cerbyd
  • ers pryd y mae wedi bod yno
  • y gwneuthuriad a’r lliw
  • y rhif cofrestru
  • a oes ganddo ddisg treth ac os felly beth yw’r dyddiad y mae’n dod i ben
  • cyflwr cyffredinol y cerbyd