Cŵn strae

Cŵn ar goll

Os byddwch yn colli eich ci dylech roi gwybod i’r warden cŵn cyn gynted â phosibl. Gofynnir i chi am fanylion am y math o gi, y lliw, rhyw, a lle a phryd y gwnaethoch ei golli. Gofynnir i chi a oes gan eich ci goler a thag hefyd. Bydd y manylion hyn wedi’u cofnodi a bydd unrhyw gŵn sy’n cael eu casglu yn cael eu cadarnhau yn erbyn y cofnod hwn. Byddwn yn cysylltu â chi pryd/os bydd eich ci yn cael ei ganfod. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth warden cŵn os byddwch yn canfod y ci eich hun yn ddiweddarach.

Cŵn sydd wedi’u canfod

Os byddwch yn canfod ci, dylech gysylltu â’r warden cŵn. Bydd y manylion yn cael eu cofnodi a’u cadarnhau yn erbyn y cofnod o gŵn sydd ar goll i weld a oes cyfatebiaeth. Os na fydd y perchennog wedi cysylltu â ni neu os na fydd yn bosibl cysylltu â’r perchennog, bydd y warden cŵn yn ceisio casglu’r ci yr un diwrnod. Bydd y ci yn cael ei drosglwyddo i gytiau diogel ac yn derbyn gofal nes y bydd y perchennog yn cael ei ganfod neu nes y byddwn wedi gallu cysylltu â hwy.

Rhoddir gwybod i’r perchennog bod y ci wedi’i ganfod, a bod ffioedd i’w talu cyn y bydd y ci yn cael ei ddychwelyd iddynt. Mae’r ffioedd hyn yn cynnwys cost dal y ci gan y warden cŵn a’r ffioedd ar gyfer eu cadw yn y cytiau cŵn, sy’n cael eu codi ar sail ddyddiol.

Os na fydd unrhyw berchennog yn cysylltu, neu os byddant yn penderfynu peidio â chasglu’r ci, yna byddwn yn ei gadw am 7 niwrnod llawn, ac ar ôl hyn bydd yn cael ei drosglwyddo’n gyfreithiol i’w ailgartrefu. Ni fydd unrhyw gŵn yn cael eu rhoi i gysgu, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.