Biniau sbwriel

Rydyn ni'n darparu, cynnal a gwagio biniau sbwriel yn y Fwrdeistref Sirol.

Lleoliadau

  • canolfannau siopa mawr a bach, digon i gynnal sbwriel am ddiwrnod
  • meysydd parcio sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor
  • canolfannau ailgylchu bach
  • cilfannau ar lwybrau strategol ledled y Fwrdeistref Sirol
  • biniau baw cŵn mewn mannau â phroblemau baw cŵn

Pa mor aml rydyn ni'n eu gwagio nhw

  • Canolfannau siopa mawr – unwaith i dair gwaith y dydd
  • Canolfannau siopa bach – bob dydd
  • Cilfannau ar lwybrau strategol – bob dydd
  • Pob lleoliad arall (gan ddibynnu ar ddefnydd) – unwaith i saith gwaith yr wythnos

Rhoi gwybod am broblem

Os byddwch chi'n nodi ardal lle nad oes bin neu lle mae'r bin wedi'i ddifrodi neu'n gorlifo, rhowch wybod i ni.

Mae hyn yn cynnwys biniau sbwriel a biniau baw cŵn.

Rhowch Wybod Nawr

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari